Ewch i’r prif gynnwys

Lles Meddyliol mewn Llencyndod: Genynnau a’r Amgylchedd (MAGES)

Nod yr Astudiaeth Lles Meddyliol mewn Llencyndod: Genynnau a’r Amgylchedd (MAGES) yw gwella dealltwriaeth o sut y gall genynnau a’r amgylchedd effeithio ar les meddyliol pobl ifanc.

I wneud hyn, mae angen samplau DNA arnom gan filoedd o bobl ifanc. Byddwn yn ymweld ag ysgolion yng Nghymru i roi’r cyfle i ddisgyblion blwyddyn 7 ac 8 gymryd rhan yn ein hymchwil drwy roi sampl o boer.

Gwyliwch fideo am yr astudiaeth

Amcangyfrifir bod 1 o bob 5 person ifanc yn dioddef o broblemau fel iselder neu orbryder. Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar addysg, perthnasoedd a lles pobl ifanc.

Bydd y tîm MAGES yn ymweld â’ch ysgol i gyflwyno gweithdy gwyddoniaeth. Gyda’ch caniatâd, byddwn yn cymryd sampl poer gan eich plentyn.

Dyma’r tîm ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n rhedeg yr Astudiaeth Lles Meddyliol mewn Llencyndod: Genynnau a'r Amgylchedd (MAGES).