Ewch i’r prif gynnwys

Dr Neil Rodrigues

"Cydran allweddol o'r bôn-gell canser yw ei allu i adnewyddu ei hun a rheoli twf y tiwmor."   

Pwy ydych chi?

Ces i fy hyfforddi ym Mhrifysgolion Harvard a Rhydychen a chefais fy ricriwtio fel Darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd o fy labordy yn Boston, U.D. 

Yn hanesyddol mae fy ymchwil wedi canolbwyntio ar fioleg arferol bôn-gell oedolyn, gyda diddordeb arbennig mewn gwaed sy'n ffurfio'n bôn-gelloedd sy'n cael eu hadnabod fel bôn-gelloedd haematopoietic. Yn fwy diweddar, mae fy ngwaith wedi canolbwyntio ar sut mae bioleg arferol yn cael ei darfu yng nghyd-destun canser a datblygiad y bôn-gelloedd canser sy'n sbarduno twf tiwmor.

Dywedwch mwy am eich ymchwil

Mae gan fy labordy ddiddordeb mewn ffactor Trawsgrifio a elwir yn GATA2.Mae ffactorau Trawsgrifio yn ysgogi mynegiant genynnau mewn celloedd. Maent felly'n elfen ganolog mewn rheoleiddio ymddygiad celloedd GATA2. Maent hefyd yn rhan bwysig o reoleiddio compartmentau gwaed aeddfed, er eghraifft, y  celloedd 'progenitor myeloid'.

Gall diffyg rheoliad mynegiant GATA2 yn y bôn-gelloedd gwaed lygru cynhyrchiad celloedd gwaed. I'r perwyl hwn, mae GATA2 wedi'i ymhlygu yn pathogenesis anhwylderau/canserau gwaed: y cyflwr syndrom myelodysplastic (MDS) a lewcemia myeloid dwys (AML).Rydym yn gwybod fod GATA2 yn ymhlygu'n gryf yn y gosodiadau yma, sy'n rhoi prognosis gwael i gleifion. Ond nid ydym yn gwybod sut mae hyn yn digwydd yn fecanyddol, sef pa fathau o gelloedd ym mêr yr esgyrn sy'n rhan o'r broses. Neu os gallwn ni eu targedu gyda therapi i wella triniaeth. Dyma'r cwestiynau sydd yn rhaid i ni eu hateb. 

Sut ydych chi'n mynd i weithredu hyn?  

Rydyn ni eisiau cymharu'r llwybrau mae GATA2 yn ei reoli mewn bôn-gelloedd cyffredin yn erbyn y rhai hynny mae'n eu rheoli mewn bôn-gelloedd canser. Gobeithiwn fydd modd i ni adnabod a thargedu'n therapiwtig y llwybrau hyn sy'n ymddangos yn unig mewn bôn-gelloedd canser. Rydyn ni'n meddwl fod gennym siawns go dda o wneud hyn gan fod gan GATA2 wahanol swyddogaethau mewn gwahanol fathau o gelloedd. Felly dylwn ni fod yn gallu adnabod genynnau arbennig sy'n unigryw i weithrediad bôn-gelloedd canser.

Beth yn eich barn chi yw'r bôn-gelloedd canser?

Wrth edrych ar y ddau salwch gwaed dwi'n eu hastudio, sef MDS ac AML, mae'r diffiniad yn eitha clir. Mae bôn-gell canser yn fath o ganser sy'n gorfod bod yn barod i adnewyddu er mwyn gyrru tyfiant y tiwmor. Mae nodweddion eraill fel eu prinder a'u statws 'ynghwsg' (dormant) yn fwy dadleuol. 

Pam eu bod nhw mor ddiddorol? 

Mae'n syml iawn i ddweud y gwir. Dyma'r celloedd sy'n gyrru tyfiant y tiwmor. Os gallwch chi dargedu gwraidd y tiwmor, yna gallwch gael gwared o'r tiwmor ei hun. 

Beth sydd ar y gweill gyda chi heddiw? 

Wel, mae gen i gyfarfod gyda myfyriwr PhD wnaeth ddechrau ar ei waith gyda ni ar ddechrau 2014. Cafodd ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol  Sêr Cymru. Mae e'n gweithio ar gyfansoddau therapi i dargedu bôn-gelloedd canser a gwella therapi'n gyffredinol ar gyfer gwaith gyda bôn-gelloedd. Dwi hefyd yn canolbwyntio ar waith gweinyddol a grantiau heddiw. 

Beth yw manteision gweithio i'r Sefydliad?

Mae'n amgylchfyd wyddonol cyfoethog iawn. Mae yna rwydwaith gret o archwilwyr sy'n gweithio ar nifer o fathau o ganser, sy'n golygu eich bod chi'n cael clywed gwahanol safbwyntiau am fôn-gelloedd canser. 

Ceir gwahaniaeth mawr rhwng y canserau solet a gwlyb (gwaed) sy'n rhan o fy ngwaith i. Ond mae yna debygrwydd rhyngddynt ac rydym yn cael cyfle i ddefnyddio darganfyddiadau ein gilydd fel cyd-weithwyr.

 

(Cyfweliad gan Sophie Hopkins, myfyriwr blwyddyn olaf, sy'n astudio Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd)