Ewch i’r prif gynnwys

Swyddi gwag

Byddwch yn rhan o rywbeth gwych.

Sefydliad Ymchwil gwerth miliynau o bunnoedd gyda'r weledigaeth o ddod yn arweinydd rhyngwladol ym maes ymchwil bôn-gelloedd canser, mae ein pobl yn uchelgeisiol ac yn gweithio i helpu i lunio dyfodol ymchwil canser.

Maent yn darparu cymysgedd o ymchwilwyr canser rhagorol sefydledig ynghyd â'r rhai sydd â photensial amlwg i ddod yn genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr bôn-gelloedd canser sy'n enwog yn rhyngwladol.  Maent yn gweithio gyda thimau sy'n arwain y byd presennol mewn gwyddoniaeth fiofeddygol sylfaenol, geneteg, datblygu cyffuriau a threialon clinigol, gan greu canolbwynt yn y DU sef y ganolfan Ewropeaidd ar gyfer ymchwil bôn-gelloedd canser.

Gyda'n gilydd, ein nod yw:

  • gwella dealltwriaeth o fôn-gelloedd canser a'r rôl maent yn ei chwarae mewn amrywiaeth o ganserau
  • datblygu therapïau newydd y gellir dangos eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y clinig
  • trawsnewid y cyfraddau goroesi ar gyfer cleifion sy'n dioddef o bob math o ganser.

Gwnewch nodyn o’r tudalen neu dilynwch ni ar Twitter/X i gael y newyddion bôn-gelloedd canser diweddaraf.

Rhaglenni PhD

I gael gwybodaeth am yr holl gyrsiau PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, gweler prif dudalennau'r Brifysgol ar astudiaeth ôl-raddedig.

Hyfforddiant gwyddonwyr clinigol / lleoliadau gwaith

Rhan o'n gweledigaeth yw adeiladu pont gref rhwng ymchwilio gwyddonol sylfaenol i fôn-gelloedd canser a chymhwyso'r wybodaeth hon ar gyfer trin clefydau. Yn y labordai a'r clinigau sy'n gysylltiedig â'r Sefydliad Ymchwil, efallai bydd cyfle ar gyfer lleoliadau gwaith. Does dim lleoliadau ar gael ar hyn o bryd, ond wrth i fwy o fanylion ymddangos, byddant yn cael eu diweddaru ar y dudalen hon.

Rydym hefyd yn derbyn llawer o geisiadau am interniaethau, ond nid oes gennym unrhyw gyfleoedd interniaeth ffurfiol yn y Sefydliad ar hyn o bryd.