Ewch i’r prif gynnwys

Y noddwr a’r cefnogwyr

Entrepreneur technoleg blaenllaw yn cefnogi Sefydliad Ymchwil.

Gwyliwch fideo o Syr Terry Matthews (nad yw'n siarad Cymraeg) yn siarad am gynlluniau'r Sefydliad Ymchwil ynghylch ymagweddau newydd at ganser:

Rydym ni’n falch mai Syr Terry Matthews, entrepreneur ym maes technoleg a pherchennog y  Gwesty'r Celtic Manor, yw’r Noddwr a sylfaenodd y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd.

Bydd Syr Terry yn cefnogi ac yn hybu gwaith y Sefydliad Ymchwil, gan hyrwyddo'i ymdrechion i ddatblygu triniaethau newydd ar draws yr amrediad llawn o ganserau.

Cyhoeddwyd bod Syr Terry wedi cytuno i wneud hyn yn lansiad swyddogol y Sefydliad. Mewn anerchiad fideo, dywedodd wrth y gwesteion ei fod yn cefnogi gwaith y Sefydliad Ymchwil yn chwilio am atebion ynghylch bôn-gelloedd canser.

Mae Syr Terry Matthews yn adnabyddus fel entrepreneur mewn technoleg uchel, ac mae wedi ariannu mwy nag 80 o gwmnïau yn y Deyrnas Unedig a Chanada yn y maes yma. Cafodd ei eni yng Nghasnewydd, ac mae'n adnabyddus hefyd am ei ymroddiad i Gymru, gan gynnwys datblygu Gwesty'r Celtic Manor a ddaeth â Chwpan Ryder i Gymru am y tro cyntaf yn 2010.

Dywedodd Syr Terry: "Mae'n drasig bod cyfraddau goroesi canser yn dal i fod yn isel, a bod diffyg dealltwriaeth am y rhesymau dros y rhifau isel yma. Bydd Y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd yn ymchwilio i gysyniad newydd, sef gallu curo canser drwy ganolbwyntio ar ddim ond rhan fach o'r tyfiant, y fôn-gell ganser. Mae'r syniad hwn yn creu cyffro ledled y byd a dylai'r Deyrnas Unedig arwain yr ymchwil yn y maes. Rwyf wrth fy modd cael bod yn noddwr y Sefydliad Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd a chwarae fy rhan yn hyrwyddo'r ymchwil i driniaethau ar draws yr holl ystod o ganserau."

Dim ond cyfran fach o’r celloedd mewn tiwmor yw’r bôn-gelloedd canser.  Fodd bynnag, gallent fod yn hollbwysig i sut mae tiwmor yn ymffurfio, yn tyfu ac yn ymledu.  Mae’r Sefydliad Ymchwil yn ymchwilio i'r posibilrwydd y bydd therapïau sy’n ymdrin â bôn-gelloedd canser yn cynnig cyfradd llwyddiant gwell ar gyfer dioddefwyr canser.

Dywedodd Matt Smalley, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil: “Mae ein Sefydliad yn falch o fod yng nghanol rhwydwaith o ymchwil canser ar draws Prifysgol Caerdydd. Mae ein cylch gorchwyl penodol yn cyfrannu ymchwil ar fôn-gelloedd canser sy'n arwain y byd, gan hybu nod Prifysgol Caerdydd o gael ei chydnabod yn arweinydd cenedlaethol ac yn gystadleuwr byd-eang ym maes ymchwil canser."

Cefnogwyr eraill

  • Yr Arglwydd Kinnock
  • Jean Chretien
  • Syr Martin Evans