Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogwch ni

Student looking at mammary gland in solution

Mae nifer y bobl sy'n byw gyda chanser ar gynnydd drwy'r amser, gyda thros 900 o bobl yn cael diagnosis o'r clefyd yn y Deyrnas Unedig bob dydd. Y newyddion cadarnhaol yw ein bod yn gallu cynnig diagnosis i gleifion yn gynt ac yn gynt, a'n bod yn datblygu triniaethau mwy effeithiol.

Mae'n hymchwil ni'n gweddnewid therapïau canser ond mae yna lawer mwy i'w wneud o hyd.

Fel elusen rydyn ni'n dibynnu ar gymorth gwirfoddol i barhau â'n gwaith.  Er enghraifft, dim ond £16 yr awr yw cost ariannu ymchwil canser hollbwysig gan un o'n hymchwilwyr ôl-raddedig.

Credwn ein bod, drwy ein hymchwil arloesol, yn gwneud gwahaniaeth i'r dirwedd ymchwil hon, ac y gall ein gwaith drawsnewid y ffordd rydym ni'n trin canser.

Yr Athro Matt Smalley

Mae 100% o'ch rhodd yn mynd yn uniongyrchol i ariannu ymchwil yn Y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd.

Os hoffech chi drafod cyflwyno rhodd cysylltwch â'n Tîm Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr ar 02920 876473 neu anfonwch at donate@caerdydd.ac.uk