Ewch i’r prif gynnwys

Helen Taylor

Efallai nad yw goruchwylio trawsnewid Forest Green Rovers i fod 'y clwb pêl-droed mwyaf gwyrdd yn y byd' yn ymddangos fel tasg i Dechnolegydd Bwyd hyfforddedig ond, fel rhan helaeth o yrfa amrywiol Helen Taylor, mae'n arwydd o awydd i wneud gwahaniaeth.

Mae popeth y mae'n ei wneud yn helpu pobl a'r blaned i ddod yn fwy cynaliadwy a chynhwysol.

“Rwy’n defnyddio fy nygnwch, fy egni uchel a fy hoffter o gwrdd a chysylltu pobl â’i gilydd i geisio ennyn newid” meddai.

Ac, ar ôl bron i 30 mlynedd yn helpu busnesau ac elusennau i hyrwyddo eu cenhadaeth, y rhinweddau hyn a arweiniodd Helen i sefydlu ei chwmni ei hun - One Blue Marble.

Dechreuodd Helen ym maes rheoli ansawdd gan ddysgu am gadwyni cyflenwi o'r fferm i'r silff a'r heriau y mae cynhyrchwyr yn eu hwynebu wrth fodloni manylebau cyflenwi llym yn y diwydiant bwyd.

Yn 1999, yn anterth twf sector organig y DU, dechreuodd Helen ei gyrfa mewn cynaladwyedd drwy ymuno â Chymdeithas y Pridd ym Mryste. Dros y degawd nesaf, bu Helen yn cyfarwyddo ardystiadau prosesu bwyd, harddwch, a chynhyrchion tecstilau organig ar ran y sefydliad.

Sefydlodd a bu’n gweithredu swyddogaeth Datblygu Busnes i gynorthwyo cwmnïau sydd am fynd yn organig hefyd - ac ar yr un pryd roedd yn gweithio i sicrhau bod marchnad ddiogel i ffermwyr a thyfwyr oedd wedi buddsoddi mewn newid i gynhyrchu organig.

Gan deimlo'n rhwystredig â'r angen i farchnata mwy ar fuddion cynhyrchion organig, symudodd Helen i reoli'r cynadleddau, yr ymgyrchoedd a'r digwyddiadau cyhoeddus ar gyfer cangen elusennol Cymdeithas y Pridd. Ac, yn 2008 aeth ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Datblygu'r elusen yn arwain gweithgareddau codi arian yn llwyddiannus gyda Patrick Holden, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas y Pridd ar y pryd.

Roedd hi'n 2010 cyn i ynni gwyrdd, ac yn ddiweddarach, bêl-droed gwyrdd gynnig her newydd sbon i Helen.

Helen Taylor CEO

Roedd ymuno â thîm Dale Vince yn Ecotricity, yn golygu bod Helen yn gallu hyrwyddo cenhadaeth y cwmni i greu Prydain Werdd drwy gynrychioli Dale a'r busnes mewn digwyddiadau, cynadleddau a chyfarfodydd.

Dechreuodd Ecotricity ymwneud â Forest Green Rovers yn 2010, ar adeg pan oedd y clwb mewn trafferth ariannol. Ar ôl darparu cymorth ariannol cychwynnol, cynigiodd Dale gymryd mwy o ran yn y clwb fel Cadeirydd. Erbyn 2017 Helen oedd Prif Swyddog Gweithredol y clwb pêl-droed.

Dywedodd: “Mae’r holl bethau rydym ni’n credu ynddyn nhw gyda Ecotricity yn anodd iawn eu cyfleu drwy ochr ynni'r busnes yn unig..."

“Gallwch weld darnau ohono, y pwyntiau gwefru trydan er enghraifft. Ond doedd popeth ddim yn dod at ei gilydd. Felly dechreuon ni feddwl yn sydyn, wel ie, gallai FGR fod yn ymgorfforiad o’r hyn rydyn ni credu ynddo. Gall pobl ddod a darganfod, dysgu, profi pethau ac, efallai, gael eu hysbrydoli i wneud mwy.”

Erbyn 2018, roedd Helen, sydd bellach wedi'i sefydlu fel crëwr newid, wedi sefydlu One Blue Marble i helpu busnesau ac elusennau i hyrwyddo eu hachos, eu cefnogi i greu dyfodol cynaliadwy, a sicrhau newid go iawn.

Yn ogystal ag Ecotricity a Forest Green Rovers, mae cleientiaid One Blue Marble yn cynnwys: Sea Shepherd UK, yrYmddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy, Catalyse Change, yr Ymddiriedolaeth Iechyd a Lles a Positive News.

Enwebwyd Helen gan Dr Anthony Samuel.