Ewch i’r prif gynnwys

Aimee Bateman

Ar ôl degawd yn gweithio ym maes recriwtio corfforaethol, teimlai Aimee Bateman yn anfodlon. Roedd hi eisiau helpu unigolion angerddol a oedd yn chwilio am waith i ddod o hyd i'w llais a'i gyfleu mewn marchnad gystadleuol iawn.

Felly, prynodd gamera ail-law ar eBay a dechrau creu fideos yn rhoi cyngor gyrfa ar YouTube o'i lolfa. Doedd ansawdd y cynhyrchu ddim wastad yn wych – fe wnaeth ei chath ymddangos mewn un, yn ogystal â lasagne microdon mewn un arall – ond roedd y cynnwys yn arbennig.

2010 oedd hi, a dechrau taith Aimee fel sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol y wefan gyrfaoedd arobryn, Careercake.com.

Heddiw, ar draws amryw sianeli, mae fideos Careercake wedi cael mwy na 12 miliwn o drawiadau (hits) ac maent yn cynnig cyrsiau ar alw i geiswyr gwaith angerddol ledled y byd.

“Mae’n debyg i Netflix, ond ar gyfer eich gyrfa,” meddai Aimee.

Caiff y cyrsiau eu cynnal gan arbenigwyr blaenllaw, ac maent yn ymdrin â phob math o hanfodion gyrfa, gan gynnwys chwilio am swydd, datblygu gyrfa ac entrepreneuriaeth.

“Rydw i eisiau i bobl gymryd rheolaeth o’u gyrfaoedd eu hunain a chynnwys hunan-gred a hunan-barch mewn cymaint o geiswyr gwaith â phosib.

“Rydw i eisiau i bob un ohonom ni fod yn gyfrifol am ein gyrfaoedd ein hunain,” ychwanegodd.

A hithau’n siaradwr llwyddiannus, yn llysgennad busnes ac yn arbenigwr cyflogaeth cydnabyddedig, enillodd Aimee y Wobr Talent ac Arloesi yng Ngwobrau Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn 2013. Ac yn 2014 cafodd ei henwi fel Marchnatwr y Flwyddyn y Sefydliad Siartredig Marchnata, yr un flwyddyn ag y gwnaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd roi Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddi am ei chyfraniad i yrfaoedd a’r gymuned yn gyffredinol.

Ers hynny mae Aimee wedi sefydlu ei hun fel arbenigwr recriwtio sy'n ymddangos ar gynyrchiadau blaenllaw fel X-Ray ar BBC Cymru, Cash Mob ar BBC Three a BBC Learning, yn ogystal â cholofnau a sylwebaeth mewn cylchgronau masnach a'r wasg genedlaethol.

Yn 2015 cyflwynodd Aimee sgwrs uchel iawn ei chlod i'r gymuned Tedx o'r enw: Judgment. Don't let it frighten you.

YouTube video of Tedx talk

“Pan fydd person yn teimlo ei fod yn cael ei weld, ei glywed a’i werthfawrogi yn ei yrfa, mae’n cael effaith gadarnhaol ar bob rhan o’i fywyd,” meddai.

“Rydw i wrth fy modd yn gallu helpu pobl i fod yn hapusach ynddyn nhw eu hunain a bod yn well mamau, tadau, gwragedd, gwŷr, brodyr, chwiorydd, meibion a merched. Rhan o hynny yw helpu pobl i ddeall eu gwerth – gwneud iddyn nhw deimlo fel eu bod yn wirioneddol bwysig.”

Enwebwyd Aimee gan Dr Sue Bartlett.