Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Ein nod yw gwella triniaeth, diagnosis ac adferiad arthritis drwy ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n archwilio'r perthnasoedd rhwng llwyth mecanyddol, swyddogaeth cymalau, poen a llid.

Mae ein hymchwil yn gyfuniad o arbenigedd a chyfleusterau a dynnir o sawl rhan o Brifysgol Caerdydd, arbenigwyr allanol, cydweithrediadau ac ariannu gan fyd diwydiant. Mae hyn wedi ein galluogi i:

  • adeiladu sylfaen gref o 2000 claf gwirfoddol sydd wedi helpu;
  • datblygu ystorfa feinweoedd gyda dros 3000 sampl i gynorthwyo yn ein hastudiaethau
  • creu offer a methodoleg ryngddisgyblaethol
  • cael cymeradwyaeth foesegol sydd wedi ein galluogi i greu llu o brotocolau i'w perfformio'n hydredol ar gleifion unigol.

Rydym wedi datblygu prosiectau newydd sy'n gofyn am gasgliad o ddata cleifion hydredol, mwy hirdymor ac am ddatblygu piblinellau arbrofol newydd, heriol fel bod modd cydberthyn biomecaneg a bioleg ar gyfer grwpiau penodol o gleifion.

Mae’r prosiectau'n dod o dan ein pedair prif raglen ymchwil:

Ymchwil cyn-glinigol

Ymchwil cyn-glinigol

Bwriad y rhaglen hon yw cieiso dysgu sut mae llwytho mecanyddol yn effeithio meinweoedd y cymalau ac yn cyfrannu at glefyd y cymalau (cynnwys Saesneg yn unig).

Osteotomi Uchel y Grimog  (HTO)

Osteotomi Uchel y Grimog (HTO)

Mae ein hymchwil yn archwilio'r posibilrwydd o arafu, atal neu wyrdroi clefyd dirywiol y cymalau drwy newid biomecaneg y cymalau (cynnwys Saesneg yn unig).

Gosod Pen-glin Newydd

Gosod Pen-glin Newydd

Mae cleifion sydd wedi cael pen-glin newydd yn aml yn anfodlon â phoen a swyddogaeth y pen-glin, gan amlygu nad yw'r canlyniad o ran y llawfeddygaeth a'r adferiad gystal ag y gallai fod (cynnwys Saesneg yn unig).

Optimeiddio Adferiad

Optimeiddio Adferiad

Mae ein hymchwil yn edrych ar sut gallwn optimeiddio adferiad y pen-glin yn seiliedig ar ddadansoddi biomecanyddol a sut gallwn ddeall adferiad swyddogaeth ar ôl anaf i'r pen-glin (cynnwys Saesneg yn unig).