Cyfleusterau
We make our facilities available to collaborators and organisations.
Our facilities range from clinical human movement laboratories, MicroCT scanning room, clinical assessment/venopuncture room, rigs, and specialist equipment for measuring human movement (walking, jogging, sit-to-standing and standing balance).
Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol

Rydym yn cynnig canolfan integredig, flaenllaw ar gyfer ymchwil i fiofecaneg gyhyrysgerbydol a biobeirianneg.
Ein nodau
Sefydlwyd y cyfleuster i ehangu ein hymchwil i osteoarthritis a biofecaneg gyhyrysgerbydol. Ein nod yw:
- datblygu ymchwil i glefydau a thriniaethau, gan gynnwys monitro adsefydlu a llawdriniaethau
- cefnogi ymchwil ac addysg ar draws y Brifysgol
- cynnig adnodd i glinigwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid
- sefydlu man atgyfeirio yn y GIG ar gyfer dadansoddi cerddediadau’n glinigol
- rhoi mynediad at dimau chwaraeon a busnesau y mae angen data biofecanyddol, clinigol neu ffisiolegol arnynt
- denu ymchwilwyr rhyngwladol a chynnal rhagoriaeth ymchwil.
Ein cyfleuster
Mae ein cyfleuster ar lawr gwaelod Adeilad Trevithick yn yr Ysgol Peirianneg. Ar hyn o bryd, mae’n cynnal:
- labordy dadansoddi symudiadau dynol yn glinigol
- labordy addysgu symudiadau dynol
- labordy fflwrosgopeg a symudiadau dynol
- ystafell sganio MicroCT
- ystafell asesu clinigol / tynnu gwaed.
Mae gennym hefyd ystafelloedd hyfforddi a chyfarfod, swyddfeydd ymchwil, man aros i ymwelwyr, mynediad a reolir ynghyd â chyfleusterau newid ac ymolchi i gleifion.
Nodweddion technegol
- Mae pob labordy symudiad dynol yn cynnwys 12 camera cofnodi symudiadau Qualisys, 4-6 plât grym Bertec, synwyryddion electromyograffeg (EMG) arwynebol di-wifr Delsys, grisiau wedi'u hofferynnu a meddalwedd arbenigol ar gyfer segmentu delweddau, dadansoddi a modelu.
- Mae gan y labordy fflworosgopeg system radiograffeg fideo deu-blân cyflymder uchel pwrpasol ar gyfer delweddu cymalau in-vivo.
- Yn y labordy clinigol ceir dynamomedr isocinetig Biodex, a melin draed wedi'i hofferynnu.
- Mae’r labordy addysgu’n cynnwys sganiwr Hologic DXA.
- Mae system llwyfan ar gyfer mesur pwysedd/grym, mat gwasgedd Gaitrite a system Uwchsain Samsung RS80A yn gludadwy ar draws y cyfleuster.
- Mae’r cyfarpar sy’n gwbl gludadwy’n cynnwys synwyryddion mesur inertiaidd corff llawn XSens, sganiwr 3D Artec, monitorau gweithgarwch Gene Active, system dadansoddi cymalau dynol celaneddol, system ddi-wifr ar gyfer mesur gwasgedd mewn esgid at ddibenion ymchwil, camerâu fideo Qualisys i gofnodi symudiadau, platiau grym ac Unedau Mesur Inertiaidd/EMG arwynebol (IMUs).
- Mae ystafell microCT yn cynnwys Bruker SkyScan 1271.
Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth gan dechnegwyr i ddefnyddio’r cyfarpar.
Cyfarwyddwr y cyfleuster
Cysylltwch â ni
Cysylltwch os hoffech weld ein cyfleusterau neu drefnu i’w defnyddio.