Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Bronwen Evans

Mae gan Ganolfan Biomecaneg a Biobeirianneg Arthritis Research UK y sgiliau a'r cyfleusterau sy'n llwyddo i gyflawni newid sylweddol wrth drin a deall osteoarthritis.

Yn 2009 dewisodd Arthritis Research UK Brifysgol Caerdydd i fod yn Ganolfan ragoriaeth fawr ei bri iddi yn y DU mewn biomecaneg a biobeirianneg.

Drwy ein hymchwil, rydym yn defnyddio dull 'moleciwl-i-ddyn' i archwilio biomecaneg cymalau normal, er mwyn penderfynu sut mae patholeg yn dylanwadu ar hyn, er mwyn llywio ymyrraeth glinigol ac adferiad mewn anhwylderau cyhyrysgerbydol.

Mae ein pobl yn creu tîm cryf o ymchwilwyr a chlinigwyr sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ac sy'n rhannu gweledigaeth hirdymor i ddefnyddio ymchwil ryngddisgyblaethol i wella gofal cleifion.

Mae cryfderau ymchwil Prifysgol Caerdydd mewn biomecaneg, biobeirianneg, mecanodrosglwyddiad, poen a llid yn cael eu defnyddio i ddiffinio, adnabod a thargedu mecanweithiau mecanyddol mewn clefyd sylfaenol y cymalau.

Mae'r Ganolfan yn ymwneud â chydweithredu agos rhwng gwyddonwyr biofeddygol, peirianwyr, llawfeddygon orthopaedig, rhiwmatolegwyr a ffisiotherapyddion i drosi ymchwil yn fudd i gleifion yn y maes clinigol. Rydym yn elwa hefyd o gael perthynas gref â chleifion sy'n gwirfoddoli i'n helpu gyda'n hymchwil.

Mae ein brwdfrydedd a'n penderfyniad ar gyfer rhaglen ymchwil ddeng mlynedd o hyd wedi cael ei hybu gan fuddsoddiad sylweddol o £7.5M gan Brifysgol Caerdydd a dyfarniad o £2.5M gan Arthritis Research UK.

Cardiff University's research strengths in the following areas are being used to define, identify and target mechanisms that contribute to joint disease:

  • Biomechanics – joint movement and loading
  • Bioengineering – linking engineering principles to biology
  • Mechanotransduction – how joint loading affects cell response
  • Pain
  • Inflammation

The Centre involves close collaborations between patients, biomedical scientists, engineers, orthopaedic surgeons, rheumatologists, physiotherapists and the general public to translate research into patient benefits. We also benefit from links with industry and external research programmes and strong relationships with participants who volunteer to help us with our research.