Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno cais

Rydym yn derbyn ceisiadau am fynediad at ein gwasanaethau gan sefydliadau academaidd a chwmnïau masnachol.

Byddwch yn gallu gwneud cais i ddefnyddio samplau sydd eisoes wedi’u storio yn y Banc Bio, neu wneud cais i sefydlu casgliad newydd o samplau. Os ydych am wneud cais, llenwch ffurflen gais sampl ragarweiniol a’i dychwelyd atom trwy ebost.

I weld pa samplau sydd gennym ar gael mewn storfa ar hyn o bryd, ewch i Chwiliwr Sampl CUB. Byddwch yn gallu arbed rhestr o samplau y gellir eu darparu i’r Banc Bio ochr yn ochr â’ch ffurflen gais ragarweiniol. Os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth addas ar gyfer eich prosiect ar ein chwiliwr sampl, cysylltwch â ni oherwydd efallai y gallwn ddod o hyd i’r samplau sydd eu hangen arnoch.

Os hoffech drafod eich prosiect cyn gwneud cais, cysylltwch â ni:

Banc Bio Prifysgol Caerdydd