Ewch i’r prif gynnwys

Cymryd rhan

Mae sawl ffordd o’n helpu ni.

Rhoi samplau

Rydym yn chwilio am bobl i roi samplau i’r Banc Bio. Nid oes yn rhaid i chi fod yn sâl; mae gwirfoddolwyr iach hefyd yn bwysig i’n helpu i ddeall y gwahaniaeth rhwng pobl iach a phobl afiach.

Rhagor o wybodaeth am y broses roi.

Gwirfoddoli

Pwyllgorau

Mae gan y Banc Bio bwyllgor sy'n adolygu ceisiadau am fynediad at samplau. Mae cleifion ac aelodau lleyg, clinigol, moesegol ac academaidd yn eistedd ar y Pwyllgor Adolygu Gwyddonol. Os byddai gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â ni. Gallwn roi rhagor o wybodaeth i chi a’ch hysbysu os ydym yn bwriadu recriwtio aelodau i'r pwyllgorau hyn ar hyn o bryd.

Rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli cyfredol.

Rhoi arian

Bydd rhoddion ariannol, beth bynnag fo’u maint, yn helpu i gefnogi cynaliadwyedd y Biofanc ac yn cadw’r costau i lawr ar gyfer cael mynediad at samplau. Bydd eich rhodd yn cael ei rhoi tuag at gynnal y Biofanc er mwyn sicrhau bod y cyfleuster hanfodol hwn yn gallu parhau i ddarparu biosamplau ar gyfer prosiectau ymchwil ledled y byd.

Hoffwn roi rhodd.

Wrth lenwi’r ffurflen rodd, ysgrifennwch "Rhodd ar gyfer Banc Bio Prifysgol Caerdydd" yn yr adran sylwadau.