Ewch i’r prif gynnwys

Rhoddwyr

Mae rhoddwyr yn hynod o bwysig i’r Banc Bio. P’un a ydych chi'n iach neu’n sâl, mae eich samplau yn hanfodol i ymchwil.

Sut i roi

Os ydych yn cael triniaeth yn un o’r ysbytai rydym yn gweithio ynddynt, efallai y bydd aelod o staff yn dod atoch i ofyn i chi roi i’r Banc Bio. Bydd samplau’n cael eu cymryd ochr yn ochr ag unrhyw samplau rydych chi’n eu rhoi fel rhan o’ch gofal clinigol neu efallai y byddwn yn gofyn am gael mynediad at unrhyw samplau clinigol dros ben ar ôl i’r ysbyty beidio â’u hangen mwyach. Hefyd, rydym yn edrych am wirfoddolwyr iach, 16+ oed i roi i Fanc Bio Prifysgol Caerdydd. Rydyn ni’n casglu samplau o waed, wrin a/neu boer, sy’n hanfodol mewn ymchwil feddygol. Maent yn caniatáu i ymchwilwyr wneud cymariaethau uniongyrchol â samplau gan gleifion sydd â chlefydau. Dyna pam mae angen crynhoi casgliad mawr o samplau gan wirfoddolwyr iach, y gall ymchwilwyr gael mynediad iddyn nhw.

Rydym yn cynnal sesiynau rhoi rheolaidd yn y Banc Bio.

Ebostiwch CUBiobank@caerdydd.ac.uk os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein cronfa ddata o wirfoddolwyr iach. Byddwn wedyn yn gallu rhoi gwybod i chi am ddyddiadau ac amserau casgliadau clinig yn y dyfodol lle gallwch chi roi samplau i’r Banc Bio, ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Adborth rhoddwyr

Staff hyfryd, wedi helpu i egluro pob cam o'r broses a hyd yn oed rhoi gwybodaeth ar i ble gallai fy samplau fynd!

Rhoddwr, 47, yn ystod ymweliad poer a rhoi gwaed

Ni fyddai cymaint o’n gwaith yn bosib heb gefnogaeth ein rhoddwyr. Caiff rhoddwyr eu trin â’r parch a’r urddas mwyaf ac rydym yn ymdrechu i wneud cyfrannu at Fanc Bio Prifysgol Caerdydd yn brofiad syml a difyr. Gofynnwn i’n holl roddwyr lenwi ffurflen adborth anhysbys er mwyn ein galluogi i wella ein proses o roi.  Mae’r adborth o’r holl roddion yn hynod gadarnhaol gyda 100% o roddwyr yn cadarnhau y byddent yn hapus i roi gwaed eto yn y dyfodol.

Dangosir rhodd nodweddiadol isod:

book

1. Trefnu

Trefnu apwyntiad drwy ddefnyddio’r ap archebu

notepad

2. Gwybodaeth

Cael y daflen wybodaeth a’r ffurflen ganiatâd drwy ebost

building

3. Ymweld

Mynd i apwyntiad a thrafod rhodd gyda chaniatâd Banc Bio

tick

4. Cydsynio

Rhoi caniatâd i’r rhodd drwy lofnodi ffurflen ganiatâd

molecule

5. Rhoi

Rhoi samplau sydd fel arfer yn waed a phoer

certificate

6. Holiadur

Cwblhau holiadur iechyd wrth fwynhau te a bisgedi!

Diogelu eich data

Bydd unrhyw ddata yn cael ei gadw gan y Banc Bio tra’n dal i fod yn ofynnol ar gyfer ymchwil, ac yna am 15 mlynedd ar ôl y pwynt hwn oni bai bod angen amser cadw gwahanol gan y cyllidwr neu’r treial clinigol.

Bydd data’n cael ei storio i anodi samplau sy’n cael eu storio yn y Banc Bio. Bydd yr holl ddata pan gaiff ei roi i brosiectau ymchwil yn cael ei roi ar ffurf ddienw. Ni roddir unrhyw wybodaeth i’r ymchwilydd fydd yn golygu bod modd eich adnabod. Gellid rhoi data i brosiectau ymchwil gan sefydliadau academaidd megis prifysgolion yn ogystal â chwmnïau masnachol fel cwmnïau cyffuriau.

Prifysgol Caerdydd yw rheolwr unrhyw ddata a gedwir am ein rhoddwyr. Dysgu mwy am ddiogelu data yn y Brifysgol.

Cyswllt Diogelu Data y Banc Bio yw:

Kieran O'Sullivan

Rheolwr ansawdd y Banc Bio

Banc Bio Prifysgol Caerdydd