Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn cynnig biosamplau dynol o ansawdd uchel i sefydliadau academaidd a masnachol ar gyfer ymchwil a gynhelir er budd cleifion.

Rydym wedi sefydlu casgliadau o nifer o feysydd clefyd gwahanol ac yn croesawu dulliau i gychwyn casgliadau newydd nad ydynt eisoes wedi’u sefydlu o fewn y cyfleuster. Mae ein cyfleuster wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Ein cyfleuster

Mae gan y cyfleuster y gallu i storio hyd at 900,000 o samplau biolegol. Mae cleifion a gwirfoddolwyr iach wedi rhoi’r samplau biolegol hyn i alluogi ymchwilwyr i ddod i ddeall clefydau’n well. Mae’r samplau’n hollbwysig er mwyn galluogi ymchwilwyr i ddod o hyd i ddulliau gwell o wneud diagnosis, atal, trin ac o bosibl dod o hyd i ffordd o wella amrediad eang o gyflyrau meddygol.

Gall samplau gael eu storio mewn rhewgelloedd tymheredd isel tu hwnt ac anwedd nitrogen hylifol, â storfa ychwanegol ar -20°C, +4°C ac ar dymheredd ystafell. Hefyd mae gennym labordy pwrpasol ar gyfer prosesu samplau ac ystafell fflebotomi ar gyfer casglu samplau.

Rydym yn darparu samplau ffres, wedi’u rhewi ac wedi’u prosesu (serwm, plasma, sleidiau) sy’n cael eu casglu a’u storio i’r safonau uchaf. Mae gweithdrefnau a pholisïau cadarn ar waith ar gyfer yr holl weithgareddau rydym yn ymgymryd â nhw. Mae’r cyfleuster yn cadw at holl safonau ansawdd perthnasol banciau bio ac wedi’i ardystio i ISO 9001:2015 ar gyfer ein system rheoli ansawdd.

Swyddi gwag

Nid ydym yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer unrhyw swyddi gwag yn y Banc Bio.

Banc Bio Prifysgol Caerdydd