Ewch i’r prif gynnwys

Llywodraethu ac ansawdd

Mae gweithdrefnau a pholisïau cadarn ar waith ar gyfer yr holl weithgareddau rydym yn ymgymryd â nhw.

Deddf Meinweoedd Dynol (HTA)

Mae'r holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â sampl yn cael eu perfformio o dan fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Meinweoedd Dynol (2004) ac yn dod o dan drwydded HTA y sefydliad ar gyfer ymchwil.

Mae Deddf Meinweoedd Dynol (2004) yn rheoleiddio pob sefydliad sy’n tynnu, storio, defnyddio a gwaredu meinweoedd dynol ar gyfer ymchwil. Cydsyniad yw un o egwyddorion sylfaenol y Ddeddf: rhaid i unrhyw un sy’n rhoi samplau gael ei hysbysu’n llawn a deall sut y gellir defnyddio’i samplau a’r data cyfatebol. Dyma beth a elwir 'cydsyniad gwybodus'.

System rheoli ansawdd

Mae’r Banc Bio wedi’i ardystio i fodloni gofynion ISO 9001:2015 ar gyfer ei system rheoli ansawdd. O dan yr ardystiad hwn, mae’r holl weithgareddau yn y Banc Bio yn cael eu perfformio yn unol â gweithdrefnau safonol i sicrhau bod ein gwasanaeth o ansawdd uchel yn cael ei fodloni’n gyson.

Yn ogystal, rydym yn gweithio tuag at aliniad ag ISO 20387:2018 - Gofynion Cyffredinol ar gyfer Banciau Bio.

BSI9001logo

Diogelu data

Mae GDPR y DU (Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 yn ymdrin â phrosesu'r holl ddata personol gan y Brifysgol, ni waeth ble mae'r data'n cael ei gadw ac ym mha fformat y caiff ei gadw. Mae’r holl wybodaeth am roddwyr yn cael ei thrin yn gwbl unol â Deddf Diogelu Data (2018). Mae’r Banc Bio yn prosesu gwybodaeth bersonol y rhoddwr yn gyfrinachol, gyda gwybodaeth am hunaniaeth y rhoddwr wedi'i storio ar wahân i unrhyw samplau a data cysylltiedig. Mae’r Banc Bio yn dileu gwybodaeth bersonol y rhoddwr ac unrhyw wybodaeth gysylltiedig oddi ar y samplau sydd wedi’u storio ac yn ei disodli â chodau anadnabyddadwy.