Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogaeth i entrepreneuriaid

Mae’r Tîm Mentro a Dechrau Busnesau yn gallu eich cefnogi wrth i chi ddatblygu sgiliau ar gyfer sefydlu busnes, hunan-gyflogaeth ac arloesedd.

Mae gan gynfyfyrwyr fynediad at y gwasanaethau canlynol hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio:

  • cyfleoedd i rwydweithio
  • digwyddiadau siaradwyr gwadd
  • gweithdai sgiliau a dechrau busnes
  • cyngor busnes un-i-un
  • mynediad at le swyddfa am ddim i ddechrau busnes (niferoedd cyfyngedig).

Dyfarniadau Dechrau-Busnes

Cystadleuaeth Syniadau Flynyddol ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yw’r gwobrau i fusnesau newydd gyda gwobr gyffredinol o £20,000 mewn arian parod a rennir gyda chefnogaeth ar gael.

Mae tri dosbarth i ddewis o'u plith:

  1. Mae’r Chwilotwr Chwilfrydig ar gyfer y rheiny sydd â syniad gwbl newydd yr hoffent ei ddatblygu.
  2. Mae’r Ceisiwr Rhyddid ar gyfer y rheiny sydd wedi datblygu syniad ac wedi gwneud eu hymchwil.
  3. Mae’r Entrepreneur Eiddgar ar gyfer unrhyw un sydd eisoes yn rhedeg busnes, prosiect masnachol neu weithrediad lawrydd sydd wedi bod yn masnachu am gyfnod llai na dwy flynedd.

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr ar y rhestr fer gyflwyno eu syniad i banel o feirniaid.

Pwy sy’n gymwys

  • Holl fyfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd
  • Graddedigion Prifysgol Caerdydd o’r ddwy flynedd ddiwethaf.

Rhagor o wybodaeth

Tîm Menter