Ceisiadau am ddogfennau a thystlythyrau

Gallwch ddilysu astudiaethau, tystysgrifau neu drawsgrifiadau newydd.

Os gwnaethoch raddio cyn Gorffennaf 2017 dilynwch y manylion isod. Os gwnaethoch raddio ar ôl Gorffennaf 2017 gyda gradd ôl-raddedig neu israddedig, ewch i dudalen Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR). Mae HEAR yn disodli copïau caled y trawsgrifiad ar gyfer astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig o Orffennaf 2017 ymlaen am gopi electronig, a gellir eu rhannu gyda thrydydd parti fel cyflogwyr ar-lein drwy eich cyfrif Gwirio gyda Phrifysgol Caerdydd.

MathManylionCyswllt
Tystysgrifau newyddAr gyfer graddau/dyfarniadau a dderbyniwyd cyn 30 Medi 2005Prifysgol Cymru
Tystysgrifau newyddAr gyfer graddau/dyfarniadau a dderbyniwyd ar 1 Hydref 2005 neu ar ôl hynnyCofrestrfa Prifysgol Caerdydd
TrawsgrifiadauAr gael ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig modiwlaidd o 1 Hydref 2005 ymlaen ac ar gyfer rhaglenni israddedig o 1 Hydref 1998

Cofrestrfa Prifysgol Caerdydd

Cadarnhad o'ch astudiaethTystiolaeth eich bod wedi astudio yma neu gadarnhad o ddosbarth eich graddCofrestrfa Prifysgol Caerdydd

Sylwer y gall tâl gael ei godi ar gyfer y gwasanaethau hyn.

Cysylltwch â ni

Er mwyn gwneud cais am ddogfennau, cysylltwch â Chofrestra Prifysgol Caerdydd:

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, nodwch ba ddogfennau sydd eu hangen arnoch a’r wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda:

  • Enw llawn (yn ystod eich amser yng Nghaerdydd)
  • Dyddiad Geni
  • Eich rhaglen astudio
  • Blwyddyn cwblhau’r rhaglen
  • Rhif Myfyriwr (os yw'n hysbys)

Ceisiadau am gyfeirnod

I ddod o hyd i gyfeiriad academaidd neu hen faes llafur, cysylltwch â'ch Ysgol yn uniongyrchol.