Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadura ymchwil

Cyflymwch eich ymchwil â thechnolegau prosesu blaengar.

Rydym yn buddsoddi yn y technolegau diweddaraf i gyflwyno dadansoddiadau cyflym ar gyfer cyfrifiadura ymchwil. Gall ein systemau eich helpu gyda:

  • thrin meintiau mawr o wybodaeth ystadegol
  • trin a lledaenu setiau data enfawr
  • gwneud niferoedd uchel o gyfrifiadau ar yr un pryd
  • delweddu ffeiliau mawr
  • paru ac adnabod patrymau cymhleth neu fawr eu graddfa.

Mae ein clwstwr Hawk yn gweithredu ar Linux ac yn cefnogi ystod eang o opsiynau meddalwedd, gan gynnwys crynoyddion, pyrth gwe, llyfrgelloedd mathemateg, dadfygwyr/proffilwyr rhaglenni a phecynnau ymchwil.

Hefyd, gallwn ni osod meddalwedd fasnachol ac agored ei chôd sy’n bodloni gofynion trwyddedu.

Nid yw’r gwasanaeth hwn yn cynnwys gwneud copi wrth gefn o ddata defnyddwyr. Os oes angen copi wrth gefn arnoch, cysylltwch â thîm ARCCA.

Gofynnwch i’n harbenigwyr

Rydym wrth law i helpu i gyflymu eich ymchwil:

Uwch-gyfrifiadura ar gyfer Ymchwil

Related projects

Gravitational physics

Detecting gravitational waves

Improving the performance of processing interferometric data.

Printed book cover

Lost visions

Retrieving the visual element of printed books dating back to the 18th century.