Ewch i’r prif gynnwys

Lletya gwasanaeth rhithwir

Gallwn letya peiriannau rhithwir i gynnig gwasanaethau cynhyrchu a datblygu i ymchwilwyr sy’n gallu rhyngwynebu â’n gwasanaethau HPC presennol hefyd.

Mae’r gwasanaeth hwn yn ategu gwasanaeth delweddu presennol y Brifysgol, ac yn cynnwys storfa wrth gefn. Mae rhai gofynion yn fwy addas ar gyfer platfform ARCCA, gan gynnwys lletya sydd angen:

  • datblygu neu gefnogi meddalwedd ymchwil â gwerth ychwanegol
  • mynediad uniongyrchol at storfa ymchwil bresennol ac iddi gapasiti mawr
  • cysylltedd cyflym uniongyrchol â chlwstwr Hawk

Ar ben yr hyn uchod, gall ARCCA gynnig costau lletya a datblygu meddalwedd i gefnogi ceisiadau grant ymchwil yn ogystal â pheiriannau rhithwyr ‘profi cysyniad’ byrdymor er mwyn i ymchwilwyr eu defnyddio’n rhad ac am ddim.

Gofynnwch i’n harbenigwyr

Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn helpu i ddiwallu eich anghenion o ran lletya:

Uwch-gyfrifiadura ar gyfer Ymchwil