Ewch i’r prif gynnwys

Gwella plismona cymunedol

Mae gwaith ymchwil arloesol gan Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau'r Heddlu wedi gwneud i'r heddlu ddeall ac ymateb i droseddau ac anhrefn yn fwy effeithiol.

Policewoman in the community
Heddwas yn y gymuned, llun gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, cyfrif Flickr.

Mae problemau troseddau ac anhrefn yn creu ansicrwydd ar draws cymunedau. Yn 2007, sefydlwyd Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau'r Heddlu mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru i helpu timau heddlu cymdogaethol i ymateb yn fwy effeithiol i anghenion lleol. Mae gwaith y Sefydliad wedi rhoi tystiolaeth am sut i ymgysylltu'n effeithiol â chymunedau fel bod ymyriadau plismona'n targedu materion sy'n dylanwadu ar sut mae pobl yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu ynglŷn â'u diogelwch. 

Arweiniodd yr ymchwil at newid polisïau ledled Cymru a Lloegr. Mae'r effaith wedi bod yn amlwg, ac roedd y Brifysgol yn gysylltiedig â chyflwyno'r neges i unedau rheoli sylfaenol ledled y DU.

Peter Vaughan Prif Gwnstabl Heddlu'r De

Treiddio'n ddyfnach

Arweiniodd yr Athro Martin Innes dîm ymchwil a ddechreuodd raglen barhaus o gyfweliadau wyneb yn wyneb ag aelodau allweddol o'r cymunedau. Mae'r gwaith wedi arwain at ddealltwriaeth newydd o ganfyddiadau'r cyhoedd a'u profiadau o droseddau ac anhrefn, gan alluogi'r heddlu i ddeall ac ymateb i anghenion y gymdogaeth yn fwy effeithiol.

Mae'r dull yn galluogi heddlu i nodi'n union pa broblemau sy'n cael y dylanwad mwyaf ar ddiogelwch cymunedol, a lle maent yn digwydd. Er enghraifft, hwyrach eu bod yn gweld mai anhrefn gymdeithasol sy'n peri'r pryder mwyaf i drigolion mewn un stryd, ac mai graffiti sy'n achosi'r anhawster mwyaf ddwy stryd i ffwrdd. Drwy dargedu'r materion a'r lleoedd lle achosir y niwed mwyaf ar y cyd, gall yr heddlu ymateb yn fwy 'deallus' ac mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar flaenoriaethau'r cyhoedd yn fwy uniongyrchol.

Gwybodaeth am y Sefydliad

Ers ei sefydlu, mae'r Sefydliad wedi cael £2 miliwn o arian allanol o amrywiaeth o asiantaethau plismona a llywodraethol. Drwy gyfuniad o drylwyredd academaidd a phwyslais amlwg ar bolisïau ac arferion, mae wedi ennill bri rhyngwladol am ei arloesedd wrth ddylunio, datblygu ac asesu atebion newydd i broblemau plismona

Newid plismona

Yn 2010, cafodd y dull ei fabwysiadu gan Heddlu De Cymru a Phartneriaeth Safer Sutton fel rhan annatod o'u gwaith plismona cymdogaethol. Mae Heddlu Victoria yn Awstralia, Academi Heddlu'r Iseldiroedd, Heddlu Swydd Gaerhirfryn a deg asiantaeth heddlu eraill yn y DU wedi defnyddio'r dull hwn hefyd.

Dyma rai o brif effeithiau'r gwaith ymchwil: 

  • newid polisi'r Swyddfa Gartref ar gyfer plismona ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Cymru a Lloegr
  • llywio strategaeth gwrthderfysgaeth 'Prevent' y DU a thramor
  • gwella canlyniadau Timau Plismona Cymdogaethol Heddlu'r De.

Dyma’n harbenigwyr

Yr Athro Martin Innes

Yr Athro Martin Innes

Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch

Email
innesm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 75307


Galluogwyd y gwaith ymchwil hwn gyda chydweithrediad a chefnogaeth: