Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant hanner marathon i redwyr y Brifysgol

1 Hydref 2017

Cardiff Half Marathon

Mae cannoedd o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr y Brifysgol wedi cwblhau Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd yn llwyddiannus.

Roeddent ymhlith y niferoedd mwyaf erioed yn y ras eleni gyda'r 25,000 o lefydd i gyd wedi'u harchebu wythnosau cyn saethu'r gwn cychwyn.

#TîmCaerdydd

Cardiff Half

Roedd llawer yn rhedeg fel rhan o #TîmCaerdydd i godi arian i ymchwil y Brifysgol i ganser a niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.

Bu staff a myfyrwyr eraill yn gwirfoddoli o gwmpas y cwrs i sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant.

Y Brifysgol yw noddwr teitl y digwyddiad ac mae wedi estyn ei chefnogaeth tan o leiaf 2020.

Cafodd pawb a gwblhaodd y ras fedal yn dangos y Prif Adeilad i goffau ein cefnogaeth i'r digwyddiad.

Gŵyl Redeg

Festival of Running

Cyn y brif ras cynhaliwyd Gŵyl Redeg undydd i bob oed ddydd Sadwrn 30 Medi.

Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Karen Holford, cychwynnwr swyddogol y don gyntaf o redwyr yr hanner marathon: “Roedd yn ysbrydoliaeth i weld cynifer o redwyr a gwirfoddolwyr Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu cymaint at lwyddiant y digwyddiad hwn.

"Hoffwn longyfarch pawb fu'n cymryd rhan, ym mha bynnag ffordd, a diolch i chi am eich ymdrechion...”

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i redwyr gwych #TîmCaerdydd oedd yn cymryd rhan i godi arian hanfodol ar gyfer ymchwil y Brifysgol i ganser a niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.”

Yr Athro Karen M Holford Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd
Cardiff Half Marathon

Rhannu’r stori hon

Mae yna nifer o ffyrdd hwylus i godi arian i gefnogi gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd.