Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwyr yn ymchwilio i gyflyrau yn y pengliniau a’r cefn

27 Medi 2017

Elite Runners

Bydd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd sy'n cynnal ymchwil hanfodol am osteoarthritis yn y pengliniau a phoen yn y cefn, wrth law i esbonio eu gwaith yn Hanner Marathon Caerdydd.

Mae ymchwilwyr o Ganolfan Biomecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU, sy’n rhan o’r Brifysgol, yn ymchwilio i’r ffordd orau o wneud diagnosis yn achos cyflyrau o’r fath, eu trin a’u gwella.

Bydd aelodau o’r tîm ymchwil ar stondin y Ganolfan ym mhabell Prifysgol Caerdydd ym mhentref y ras yn yr hanner marathon ddydd Sul 1 Hydref – ac yn ystod yr ŵyl redeg gysylltiedig a gynhelir ddydd Sadwrn 30 Medi.

Dywedodd Dr Valerie Sparkes, o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd: “Ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth glir ar gael i gefnogi neu wrthddweud y ddamcaniaeth bod rhedeg yn achosi problemau yn y cymalau, gan gynnwys osteoarthritis yn y pengliniau.

“Fodd bynnag, mae tystiolaeth eithriadol o gref bod ymarfer corff yn gallu helpu i leihau’r poen a’r cyffio sy’n gyffredin iawn mewn achosion o osteoarthritis yn y pengliniau a phoen yn y cefn...”

“Mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo yn y Ganolfan yn dangos datblygiadau addawol o ran nodi cynhyrchion fferyllol i atal neu arafu osteoarthritis yn dilyn anafiadau acíwt a deall sut y gall llwytho drwy’r cymalau mewn gweithgareddau megis rhedeg effeithio ar osteoarthritis yn y pengliniau ac anhwylderau eraill yn y cymalau.”

Yr Athro Valerie Sparkes Pennaeth Proffesiynol Dros Dro: Ffisiotherap / Cyfarwyddwr: Canolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU
Motion capture device

Bydd stondin Canolfan Biomecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU yn yr hanner marathon yn cynnwys gwybodaeth am y gwaith ymchwil yn ogystal ag arddangosiadau o ran o’r gwaith, gan gynnwys cipio symudiadau i hyrwyddo Cyfleuster Ymchwil Biomecaneg Cyhyrysgerbydol newydd (MSKBRF) sy’n rhan o’r Ysgol Peirianneg.

Mae Dr Philippa Jones yn gwneud gwaith ymchwil yn MSKBRF i weld a all technolegau gwisgadwy - synwyryddion bach sydd ynghlwm wrth y corff - gynyddu ein dealltwriaeth o sut mae pobl sydd ag osteoarthritis yn y pengliniau gyflawni ymarferion gwella ar ôl cael llawdriniaeth amnewid pen-glin.

Bydd hi wrth law i esbonio ei gwaith ymchwil ac arddangos y synwyryddion y mae hi’n eu defnyddio i fesur sut mae pobl yn symud.

“Bydda i’n egluro pam mae fy ngwaith ymchwil yn bwysig a sut gall y rhedwyr a’u teuluoedd a’u ffrindiau gyfrannu ato fel gwirfoddolwyr iach,” meddai.

“Mae gwirfoddolwyr iach yn rhan bwysig iawn o’m gwaith ymchwil gan fod angen i mi fedru deall sut mae’r bobl hyn yn symud er mwyn medru cymharu â chleifion ac, yn y pen draw, fapio cynnydd cleifion.”

Dr Philippa Jones Ganolfan Biomecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU

Prifysgol Caerdydd yw prif noddwyr Hanner Marathon Caerdydd ac mae wedi ymrwymo i gefnogi’r digwyddiad tan o leiaf 2020.

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Biomecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU, ebostiwch arthritiscentre@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 029 2087 5419 neu ewch i'r wefan.

I gael rhagor o wybodaeth am MSKBRF, cysylltwch â Dr Philippa Jones - MSKBRF@caerdydd.ac.uk neu 029 2251 0237.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ddeinamig, yn arloesol ac yn flaengar, a chydnabyddir ein rhagoriaeth ym meysydd dysgu, addysgu ac ymchwil.