Ewch i’r prif gynnwys

Goethe Institut Llundain

Er mwyn cefnogi strategaeth Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi sefydlu partneriaeth gyda Goethe Institut Llundain i hyrwyddo a chodi proffil Almaeneg ac annog myfyrwyr i astudio'r iaith dros y tymor hir.

Gall astudio Almaeneg arwain at gyfleoedd gyrfa cyffrous a gwerthfawr i fyfyrwyr ysgol uwchradd. Yn hynny o beth, bydd ein partneriaeth yn canolbwyntio ar feithrin gallu a chefnogi datblygiad proffesiynol y gweithlu addysg yn y sectorau uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch. Bydd y bartneriaeth hefyd yn cynnig cyfleoedd dysgu gwell er mwyn ymgysylltu gyda dysgwyr a’u hysbrydoli.

Yn eu his-swyddfa yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, mae Goethe Institut Llundain yn gweithio'n agos gyda'n hacademyddion i gefnogi digwyddiadau ymchwil ac ymgysylltu.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a manylion am ddigwyddiadau sydd i ddod ar wefan Goethe Institut.

Cysylltwch â ni

Kate Barber

Kate Barber

Executive Officer €“ International and Engagement

Email
barberkl@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0881