Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

  • 96% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs.
  • 96% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs.

O’r sector cyhoeddus i’r sector preifat, rydym yn cynnig gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd.

Mae ein graddedigion gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn defnyddio eu sgiliau newydd mewn sbectrwm eang o swyddi yn y cyfryngau, gwasanaethau archwilio, treth a chynghori, y gwasanaeth sifil, gwleidyddiaeth, ymchwil i’r farchnad ac addysgu.

Mae llawer o’n graddedigion yn y Gyfraith yn dilyn gyrfaoedd sy’n ymwneud â’r gyfraith ac maent bellach yn gyfreithwyr dan hyfforddiant, yn baragyfreithwyr, yn gynorthwywyr cyfreithiol, yn weithwyr cymorth, ac yn drawsgludwyr trwyddedig. Fodd bynnag, mae graddedigion eraill y Gyfraith wedi defnyddio’r sgiliau cyflogadwyedd a enillwyd ganddynt yn y brifysgol i ddechrau gyrfaoedd mewn sectorau fel cyfrifeg, bancio, yswiriant, recriwtio, addysgu, a gwasanaeth yr heddlu.

Cymorth gyrfaol yn y dyfodol

Mae adran Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'n myfyrwyr ar bob cam o'u gradd, gan ddarparu ystod o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â gyrfa wedi'u teilwra trwy’r flwyddyn. Beth bynnag yw eich uchelgais o ran gyrfa, gallwn eich rhoi ar ben ffordd gyda'n hamrywiaeth o weithgareddau â ffocws penodol ar yrfaoedd a chyflogadwyedd.

The Careers and Employability service offered me a wide range of support and advice. The law faculty and the careers department worked closely together to offer a variety of talks from prospective employers, which proved invaluable in the application process.

Laura LLB Law

Mae cymorth Dyfodol Myfyrwyr yn cynnwys:

  • apwyntiadau cyfrinachol un i un gyda Chynghorwyr Gyrfa a Chynghorwyr Cyflogadwyedd sydd â chyfrifoldeb penodol dros myfyrwyr Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
  • gweithdai ar ysgrifennu CV, ffurflenni cais, paratoi ar gyfer cyfweliad a chwilio am swydd drwy ddefnyddio LinkedIn
  • cyfle i ymgysylltu â chyflogwyr drwy ddigwyddiadau rhwydweithio, cyflwyniadau gan gyflogwyr, sesiynau panel, a ffeiriau gyrfaoedd yn ystod y flwyddyn – gan gynnwys, cyfreithwyr, bargyfreithwyr, y gwasanaeth sifil a chynrychiolwyr y trydydd sector
  • mynediad i adnoddau dysgu ar-lein cynhwysfawr: 'Taith Eich Gyrfa', a ddatblygwyd i gyd-fynd â phob agwedd ar gynllunio gyrfa (ar y fewnrwyd)
  • profiad Gwaith a chyfleoedd mentora a ddarperir gan Dîm Profiad Gwaith Dyfodol Myfyrwyr
  • cymorth ychwanegol i lefelu’r cae chwarae ar gyfer myfyrwyr cymwys sydd angen cymorth i sicrhau profiad gwaith - a ddarperir gan y Tîm Gyrfa Hyderus
  • cyfleoedd i dreulio amser dramor trwy'r Tîm Cyfleoedd Byd-eang
  • cyfle i gymryd rhan yng Ngwobr Caerdydd – Gwobr Cyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd
  • cefnogaeth i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn cychwyn busnes neu ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd

Cysylltu â ni

Gallwch ddod o hyd i Ddyfodol Myfyrwyr ar lawr cyntaf Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar Blas y Parc.

I gael gwybodaeth benodol am feysydd ein pynciau, cysylltwch â Helen McNally:

Helen McNally

Helen McNally

Career Consultant - Law

Email
mcnallyhj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0)29 2087 6524

* Yn seiliedig ar raddedigion amser llawn sy'n hanu o'r DU ac a oedd yn astudio ar gyfer eu gradd gyntaf. Ffynhonnell: Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21 - canlyniadau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau gan drydydd partïon ar sail ei ddata.

** Yn seiliedig ar raddedigion amser llawn sy'n hanu o'r DU. Ffynhonnell: Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21 - canlyniadau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau gan drydydd partïon ar sail ei ddata.