Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Matt Smalley

"Rydyn ni'n edrych ar bethau o ogwydd gwahanol; mae gan bawb ffordd o edrych ar y broblem hon sy'n golygu bod y prosiect yn ei gyfranrwydd yn llawer mwy na'r elfennau sy'n ran ohono."

Pwy ydych chi?

Rwy'n uwch ddarlithydd yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd ac Is-Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd. Cefais fy recriwtio i Gaerdydd ym mis Ionawr 2012, yn benodol i ymuno â'r Sefydliad newydd.

Beth yw bôn-gelloedd canser yn eich barn chi?

O ran fy ymchwil i fel arbenigwr canser y fron, dwi'n meddwl bod bôn-gelloedd canser yn gelloedd sy'n medru atgynhyrchu yn dilyn therapi ar dyfiant neu diwmor. Pan mae celloedd yn lledu o dyfiant o gwmpas y corff, mae'r rhain yn goroesi'r broses ac yn tyfu. Mae'r term bôn-gelloedd yn cael ei ddefnyddio yn eitha llac achos does dim diffiniad pendant.

Pam mae nhw o ddiddordeb i chi fel ymchwilydd?

Mae gen i ddiddordeb yn y budd clinigol a ddaw o dargedu'r celloedd yma naill ai'n uniongyrchol i drin llediad canser (metastasis) neu mewn therapïau cyfunedig fydd yn atal ail-dyfiant y tiwmor. Ond yn ogystal os gallwn adnabod ymddygiad sy'n debyg i'r bôn-gelloedd canser yn y diagnosis cyntaf, yna gallwn ragweld pa rai fydd yn tyfu'n gynt gan gynnig therapïau mwy dwys sy'n defnyddio triniaethau sefydledig.

Beth yw'ch gwaith ymchwil chi ar hyn o bryd?

Mae yna dair rhan i'r gwaith: bioleg bôn-gelloedd cyffredin, gwreiddiau gwahanol fathau o diwmorau a gwreiddiau'r gwahanol fathau o gelloedd o fewn tiwmorau (yn arbennig bôn-gelloedd canser).

Fel prosiect ymchwil sylfaenol, rydym yn ceisio deall rheolaeth bôn-gelloedd cyffredin a phoblogaethau swyddogaethol celloedd o fewn y fron; a chydbwysedd a rheolaeth y celloedd wrth iddynt dyfu.

Mae'r rhan fwyaf o'n gwaith fodd bynnag yn canolbwyntio ar gancr y fron, yn arbennig sut mae'r tiwmorau'n dechrau tyfu; sut mae gwahanol fathau o fôn-gelloedd yn gallu achosi gwahanol fathau o gancr y fron. Felly rydym yn creu modelau geneteg i helpu ni i ddeall beth sy'n rheoli'r gwahanol fathau o fioleg a gwreiddiau'r gwahanol fathau o ganser y fron. Mae yna rhwng 10 a 20 o fathau o ganser y fron, yn dibynnu ar sut rydych yn eu dosbarthu. Y gobaith yw bydd yr ymchwil hwn yn ein helpu i bersonoliaethu'r meddygaeth.

Y peth arall rydyn ni'n ceisio ei wneud yw i geisio adnabod y gwahanol boblogaethau o bôn-gelloedd canser o fewn yr is-fathau o ganser y fron. Rydyn ni'n ceisio darganfod sut mae nhw'n dechrau ac yn datblygu, pam eu bod nhw'n gyfrifol am wrthsefyll triniaeth a sut mae hyn yn creu bôn-gelloedd canser.  A hefyd os mae therapi yn medru cynhyrchu bôn-gelloedd canser fel modd i wrthsefyll y driniaeth.

Sut mae'ch ymchwil yn perthyn i'r testun ehangach?

Bydd ein ymchwil yn dangos i ni sut gallwn ddefnyddio therapi sydd wedi ei bersonoliaethu i ddelio gyda'r gwahanol fathau o ganser y fron. Rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi'r adnoddau i glinigwyr i ddarganfod gwybodaeth prognostig er mwyn iddynt ddysgu sut mae tiwmor y claf yn debygol o ledu neu beidio.

Gobeithio y bydd yn arwain at therapïau newydd ar gyfer canser y fron, yn arbennig yr hyn sy'n effeithio ymddygiad bôn-gelloedd canser.

Beth ydych chi'n ei wneud heddiw?

Heddiw, rwy'n gweithio ar bapur sy'n ceisio disgrifio darganfyddiadau mewn bôn-gelloedd cyffredin y fron a sut mae nhw'n perthyn i ymddygiad metastatig cancr y fron driphlig negyddol.Felly ar y funud hon, pan ddaethoch chi i'r swyddfa, roeddwn yn ceisio dyfalu sut i gyflwyno torreth o wybodaeth am ddata fynegiant geneteg mewn un darlun A4!

Sut mae gweithio o fewn y sefydliad yn eich helpu chi fel ymchwilydd?

Rwy wrth fy modd yn gweithio gyda chriw o bobl sydd â'r run diddordebau â fi. Mae pawb yn edrych ar yr un pethau ond o safbwynt gwahanol, felly mae agweddau o'n gwaith yn cydfynd gyda'i gilydd.

Yn ogystal mae'r adnoddau gwych a blaengar sydd gyda ni yma yn anhygoel. Ni fyddai modd i ni wneud ein gwaith ymchwil hebddynt.

(Cyfweliad gan: Sophie Hopkins, myfyrwraig is-raddedig yn yr Ysgol Biowyddorau)