Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrau Cynfyfyrwyr

Rydym yn falch o’n cynfyfyrwyr am eu cyfraniadau i’r byd llenyddol. Dyma rai llyfrau sydd wedi cael eu hysgrifennu gan ein cymuned o gynfyfyrwyr.

Os hoffech ychwanegu eich llyfr chi at y rhestr, anfonwch neges at alumni@caerdydd.ac.uk.

Awduron A-Y

Mohab Abou-Elkawam (PhD 2015) - Nomads of a Global Industry: Seafarers and the Marine Environment: The Quest

Archwilio sut mae morwyr yn rhyngweithio gyda’r galw cynyddol i ddiogelu’r amgylchedd. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

J.J. Bhatt (PhD 1972) - Human Endeavor: Essence & Mission A Call for Global Awakening

Trafodir seiliau hanesyddol doethineb sy’n cynrychioli treftadaeth fyd-eang. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Gemma Clatworthy (BA 2007) - Awakening: Rise of Dragons

Gemydd a chrëwr arfau hanner-corrach yw Amethyst, a’r cyfan mae hi am ei wneud yw cynyddu gwerthiant yn ei siop mewn arcêd poblogaidd yng Nghaerdydd. Pan mae ei ffrind gorau’n cael ei herwgipio, mae’n cael ei llusgo i fyd o gyltiau a dreigiau. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Dr Elena Cooper (LLB 2001) - Art and Modern Copyright

Dyma’r astudiaeth fanwl a chynhwysfawr gyntaf ar hanes diogelu hawlfraint y celfyddydau gweledol, sy’n cysylltu hanes hawlfraint gyda hanes celf a dadleuon hawlfraint cyfoes. Rhagor o wybodaeth ar-lein

Yr Athro David P Davies (MBBCh 1965) - In Search of the Physicians of Myddfai

Yn 1861, cyhoeddwyd y llyfr Meddygon Myddfai, gan gynnig disgrifiad o draddodiad Myddfai i ddarllenwyr Cymru am y tro cyntaf. 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach, dychwelodd yr awdur i Fyddfai i ddarganfod y traddodiad hwn. Pwy oedd y meddygon hyn ac o ble y cawson nhw eu gwybodaeth feddygol? Rhagor o wybodaeth ar-lein

Frederick Dobb (BEng 1966) - 9001 for Design and Manufacture: A complete how-to guide for successful implementation and certification

Popeth sydd ei angen i gyflawni ISO 9001 gyda llawlyfr templed gwaith llawn yr awdur, gweithdrefnau a thua 70 o ffurflenni. Mae Frederick Dobb yn arbenigwr tra chymwys ac mae wedi cynnal miloedd o archwiliadau ISO 9001 a rhoi nifer o systemau rheoli ISO 9001 ar waith yn llwyddiannus. Rhagor o wybodaeth yn Amazon

Judith M. Fathallah (PhD 2014) - Emo: How Fans Defined a Subculture

Yn ffenomen gerddoriaeth boblogaidd ar ddechrau'r 2000au, mae emo yn golygu "hardcore emosiynol", ac mae'n cyfeirio at genre cerddoriaeth a sîn ieuenctid sy'n enwog am ei steil adrogynaidd. Bydd Judith May Fathallah yn mynd y tu hwnt i'r ystrydebau a'r stigma cymdeithasol er mwyn ymchwilio sut mae cefnogwyr ar-lein wedi llywio diffiniad emo, gyda goblygiadau sylweddol ar gyfer lluniadau rhyw cenhedlaeth y mileniwm, ac astudiaethau cefnogwyr cyfoes. Rhagor o wybodaeth ar-lein

John F. Francis (BA 2005, PhD 2010) Feasts of Blood: The Forgotten History of Welsh Prize Fighting

Darllenwch am hanes paffwyr gornest o Gymru a’u bywydau lliwgar y tu hwnt i’r sgwâr. Yn aml, roedd trais gyda phaffwyr yn mynd law yn llaw ag ymosodiadau meddwol ar unrhyw a fyddai’n dod ar eu traws – dynion, menywod, heddlu – gan greu cofnod sylweddol o droseddau yn y broses. Osgoi cael eu saethu yn UDA, brwydro’n ddewr mewn rhyfeloedd yn Ne Affrica a Ffrainc, dianc o garchardai, a’u gyrfaoedd ar y llwyfan mewn dramâu Shakespeare ac mewn clybiau nos yn Ffrainc. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Kevin Goodman (BA 1992) - The Diggum-Uppers: Body Snatching and Grave Robbing in the Black Country

Gallai pobl feddwl mai rhywbeth oedd yn gysylltiedig â Llundain a Chaeredin yn unig oedd cipio cyrff a dwyn o feddau, ond roedd hefyd yn rhemp yn ardal ddiwydiannol gorllewin canolbarth Lloegr: Y Wlad Ddu (The Black Country) Mae'r llyfr hwn yn datgelu pwy oedd cipwyr cyrff a lladron beddau’r ardal, y dulliau a ddefnyddiwyd i'w hatal, a'r dynion meddygol a'u cefnogodd. Cewch wybod hefyd am y gwirionedd erchyll am beth ddigwyddodd pan gafodd cipio cyrff a dwyn o feddau ei wahardd. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Jared Green (LLB 2004) - Famously Dead

Pedwar ffrind coleg. Un seleb marw. Tri diwrnod yn Las Vegas. Miliwn o bunnoedd i wario. Beth allai fynd o’i le? Roedd Jack, Charlie, Piers a Tom wedi dilyn trywydd gwahanol ar ôl gadael Prifysgol Caerdydd ac roedd bywyd wedi bod yn fwy caredig i ambell un. Serch hynny, mae marwolaeth Michael Jackson yn sbardun i ail-gydio mewn gêm a ddechreuodd dros ddau ddegawd yn ôl, ac mae’r ffrindiau yn dod at ei gilydd i fentro ar daith fawr eu bywyd...Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Simon Hall (PGDip 1991) - The TV Detective

Mae Dan Groves, y gohebydd teledu newydd gael ei anfon i ohebu am droseddu ac yn edifarhau. Mae angen cwrs dwys mewn gwaith heddlu arno; ac felly mae’n cysgodi y Ditectif Prif Arolygydd Adam Breen ar ymchwiliad llofruddiaeth proffil uchel, ond nid yw pawb yn hapus â hyn. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Geoff Hanlan (BScEcon 1977; BA 1999) - 2045 and After: Rhan Un

Mae Christopher Jones yn cael ei anfon ymlaen mewn amser i’r 8fed o Fai 2045 Dyma ddechrau taith gyffrous wedi’i ysgrifennu mewn dwy ran sy’n arwain at 2060. Ar ôl iddo gyrraedd Cernyw mae’n cael ei adnabod fel James Marsh. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Khairul Azwan Harun (BSc 1999) - Khairul Azwan Harun My Personal Story & Collection of Articles

Ar hyn o bryd, mae Azwan yn rheoli ei wasanaeth ymgynghori Progredior Consulting ei hun yn KL, gan wasanaethu ei gleientiaid corfforaethol mewn ymchwil polisi, cyfathrebu strategol, eiriolaeth rhanddeiliaid ac asesu risg gwleidyddol. Mae’n credu’n gryf mewn ymgysylltiad rhanbarthol a grymuso pobl ifanc i ddileu eithafiaeth, ac mae’n hyrwyddo deialog polisi dwybleidiol ar gyfer datblygu cynaliadwy a realiti hinsoddol. Mae hefyd yn siarad yn frwd am ddemocratiaeth a chenedlaetholdeb blaengar. Rhagor o wybodaeth ar-lein. 

Myles Hopper (BA 2010) - The Mindful Chef

Wedi’i sefydlu yn 2015 yn Nyfnaint gan Myles Hopper a Giles Humphries, Mindful Chef yw hoff gwmni recipe box y DU, fel y pleidleisiwyd gan Trust Pilot. Mae Myles, sydd yn hyfforddwr personol a maethegydd, a Giles yn gweithio gyda thîm proffesiynol o gogyddion i ddylunio a chreu ryseitiau blasus ac iachus. Maent yn danfon y cynhwysion i filoedd o gartrefi ar draws y wlad bob wythnos. The Mindful Chef yw eu llyfr cyntaf. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Angela Hui (MA 2014) - Takeaway

Karen Ingram (BScEcon 2014) - Thrive Don't Just Survive: The Secret to a Happy and Profitable Health and Fitness Business

Mae Karen Ingram yn rhannu'r gyfrinach o sut y gallwch chi gyfuno'ch talent a'ch angerdd am yr hyn rydych chi'n ei wneud ag offer busnes syml ac effeithiol i wneud bod mewn busnes yn bleser. Mae hi'n amlinellu rhai o'r peryglon cyffredin sy’n baglu therapyddion a hyfforddwyr ffitrwydd wrth ddechrau busnes ac mae'n mynd â chi trwy 5 cam clir i wneud eich busnes yn iach, yn hapus ac yn ffyniannus. Rhagor o wybodaeth ar Amazon.

Hanan Issa (BA 2008), Durre Shahwar (PhD 2018-), Özgür Uyanık (PhD 2019-) - Just So You Know: Essays of Experience

Mae merch ifanc yn gwau ei phrofiad o gael ei cham-drin i lên gwerin ei hynafiaid. Mae myfyriwr yn mynd i'r afael â'i anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) drwy ysgrifennu llythyrau ato. Mae enillydd medal Paralympaidd yn myfyrio ar ei daith i ffordd newydd heriol o fyw. O wleidyddiaeth iaith i niwrowahaniaeth, treftadaeth ddiwylliannol i hunaniaeth rywiol, o fewnfudo i hil, mae'r rhain yn straeon a rennir gyda gofal, didwylledd ac hiwmor. Rhagor o wybodaeth ar-lein.

Deborah Jay (LLB 1984) - Napoleon's Other Wife: Hanes Marie-Louise, Duges Parma, gwraig llai adnabyddus Napoleon Bona Parte

Datgelu’r fenyw a gafodd ei hanwybyddu/neilltuo gan y myth o garwriaeth Napoleon a Josephine. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Syr Karl Jenkins (BMus 1966) - Still With The Music: My Autobiography

Mae cerddoriaeth yn gallu cyfathrebu â phawb. Mae cerddoriaeth Syr Karl Jenkins yn gwthio ffiniau arddull a genre, daearyddiaeth, iaith a chenedligrwydd i anfon neges o heddwch sydd wedi cael effaith ar filiynau o amgylch y byd. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Dr Esther Ramsay-Jones (BA 1998) - The Silly Thing: Shaping the Story of Life and Death

Mae The Silly Thing yn adrodd hanes menyw sy’n derbyn bod ganddi glioblastoma gradd 4, canser ymosodol o’r ymennydd, a’i thrafferthion wrth fyw a marw gyda’r cyflwr. Caiff yr hanes ei adrodd o safbwynt ei merch, Esther Ramsay-Jones, sy’n seicotherapydd ac yn academydd. Rhagor o wybodaeth ar-lein

Aditi Kotwal (MA 2009) - Draupadi in High Heels

Yn ferch i deulu busnes adnabyddus, mae Deeya yn ferch ddisglair, gyfoethog wedi’i difetha ac sy’n berchen ar siop ffasiwn elitaidd. Mae ei rhieni am iddi briodi a chynnal rhyw fath o swayamvar er mwyn iddi ddewis gŵr. Mae hi mewn penbleth - dewis Karan, y dyn hynod olygus a chyfareddol, neu Arjun, sy’n fywiog a chymdeithasgar. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

David Lewis (BSc 1988) - Going Off Grid

Casgliad o farddoniaeth fodern sy’n canolbwyntio ar gyfalafiaeth ddigidol, dylanwad negyddol sefydliadau technegol mawr a’n dibyniaeth ar ddata. Mae’r cyfeiriad negyddol y mae dynol ryw yn ei gymryd yn destun pryder i Lewis, ac mae’n dadlau fod angen i ni arwain ein hunain yn ôl i le symlach a hapusach yn y byd all-lein Fe ddisgrifiodd y cerddor Cymreig Andrew Davies ei waith fel ‘Y Tir Wast i Genhedlaeth y Mileniwm.’ Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Alex Lockwood (BA 1998) - The Chernobyl Privileges

Wedi’i ysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn, mae The Chernobyl Privileges yn ddrama seicolegol seriol sy’n darlunio’r profiad trawmatig o oroesi trychineb o’r fath. Mae’n stori drasig ond calonogol ar yr un pryd, sy’n archwilio goblygiadau penderfyniadau sy’n rhaid inni eu gwneud ac sy’n siapio ein bywydau. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Ankur Mahajan (MSc 2009) - Life Beyond Bullets- Memoir of Life in rural Afghanistan and West Africa

Fel dyn ifanc, mae’r awdur yn cyflwyno ei fyfyrdodau dwys a byw o’i hanes lliwgar, agored a hynod bersonol o fyw yng nghefn gwlad Afghanistan ac amrywiaeth o wledydd yng Ngorllewin Affrica. Mae’r llyfr yn daith sy’n trin a thrafod mewn modd meddylgar y meysydd trawsddiwylliannol, gwleidyddol, rhywedd, economaidd, diogelwch a chrefyddol sy’n berthnasol mewn parthau rhyfel ac yn y gwledydd lleiaf datbygol o brofiad uniongyrchol yr awdur. Rhagor o wybodaeth ar-lein

Dr Matt Morgan (MBBCh 2004, PhD 2015) - Critical

Mae Dr Matt Morgan yn feddyg gofal dwys yng Nghaerdydd, ac mae’n gofalu am y cleifion gwaelaf yn yr ysbyty. Yn ei lyfr cyntaf, Critical, mae am eich tywys o amgylch yr adran gofal dwys, un o'r mannau prysuraf a lle ceir y pwysau mwyaf, mewn ysbyty'r oes fodern. Cewch wybod am rai o'i achosion mwyaf diddorol a chofiadwy. Drwy'r hanesion hyn, byddwch yn dysgu am ryfeddodau'r corff dynol ac yn dathlu gwydnwch anhygoel yr ysbryd dynol. Bydd rhywfaint o'r elw o werthu'r llyfrau'n cael ei roi i elusen leol 2WichUponAStar, sy'n helpu teuluoedd sy'n colli rhywun yn sydyn. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Rosaleen Moriarty-Simmonds OBE (BSc 1985) - Four Fingers and Thirteen Toes

Mae Rosaleen wedi byw ag anafiadau ofnadwy o ganlyniad i Thalidomide gael ei roi i’w Mam pan oedd hi’n feichiog. Mae hi’n awr yn rhedeg Ymgynghoriaeth Hyfforddi Cydraddoldeb Anabledd. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Laurence Moroney (BSc 1991) - Space Cadets

Flynyddoedd ar ôl i ddynoliaeth osgoi rhyfel niwclear angheuol o drwch blewyn, fe adeiladodd y Cenhedloedd Unedig Academi Ofod. Ei bwrpas: Sicrhau na fyddwn ni yn wynebu difodiant fyth eto. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Marvin Nyenyezi (LLB 2002) - International Student Pathfinder

Mae International Student Pathfinder yn ganllaw hanfodol ar gyfer myfyrwyr tramor mewn prifysgolion yn y DU a fydd yn eu helpu i fanteisio i’r eithaf ar eu profiad prifysgol. Mae’n llawn cyngor ac awgrymiadau ymarferol ar ystod o bynciau fel dewis prifysgol, gwneud cais am interniaeth a swyddi i raddedigion, a chymaint mwy. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Jarlath O’Brien (BSc 1999) - Leading Better Behaviour: A Guide for School Leaders

Yn y llyfr hwn, sy’n mynd law yn llaw â’i gyhoeddiad arall, Better Behaviour, mae Jarlath O’Brien yn cyfuno’r ddealltwriaeth y mae wedi’i meithrin drwy ei brofiad ei hun o wella ymddygiad mewn ysgolion, ymchwil a pholisïau, i greu canllaw ymarferol i gefnogi arweinwyr mewn ysgolion a darpar arweinwyr. Rhagor o wybodaeth ar-lein

Jeni Oborn (BA 2004) - The Image of Survival

Fe oroesodd Sophia Darcy gancr, heb gael ei heffeithio ryw lawer, a’i bywyd o’i blaen. Wrth i’w blynyddoedd iach fynd yn eu blaenau, mae hi’n cael trafferth dod o hyd i rywbeth i roi ystyr i’w bywyd - ‘rhywbeth trawiadol’ i fyw bywyd i’r eithaf fel y dylai rhywun wneud ar ôl goroesi cancr yn ei llygaid hi. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

James Orpwood (BSc 2002, PhD 2006) - A Quest For Fulfilment

Mae A Quest for Fulfilment yn gipolwg ysgafn, ond geirwir ac ysbrydoledig ar daith dyn - o bysgotwr brwd a gwyddonydd pysgodfeydd - i ddod o hyd i foddhad proffesiynol a phersonol yn y mynyddoedd. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Anthony Papadopoulos (MSc 1997) ac Evi Plomaritou (MSc 1997) - Shipbroking and Chartering Practice

Yn awr yn ei wythfed argraffiad, mae’r clasur yma yn bwynt cyfeirio i unrhyw un sydd am ddysgu rhywbeth am siartio a’r arfer o fasnachu llongau. Rhagor o wybodaeth ar-lein

Richard Parks (Llawfeddygaeth ddeintiol, 1997 - 2000) - Beyond the Horizon

Mae stori Richard Parks yn un o straeon mwyaf rhyfeddol ac ysbrydoledig chwaraeon cyfoes. Mae Beyond the Horizon yn stori wych, ysbrydoledig a chyffrous am anturiaethwyr cadair freichiau, chwaraeon eithafol a chefnogwyr mynydda. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Pip Payne (BA 2003) - The Slimming Foodie: Everyday meals made healthy, hearty and delicious

Yn seiliedig ar y blog arobryn, mae The Slimming Foodie yn trin a thrafod prydau blasus, egnïol i’w coginio gartref ac sy’n addas i unrhyw un sy’n colli pwysau. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Dr Anne Purbrick (PhD 2019) - Telling the Tale of Jaufre: Bringing a Thirteenth-Century Story to Twenty-First-Century Listeners, The Tale of Jaufre

Addasu ac ymchwilio i’r stori ganoloesol The Tale of Jaufre a wna’r llyfrau hyn, gan dreiddio’n ddwfn i’w hanes helaeth, yn ogystal â rhoi cip tu ôl i’r llenni inni o’r arfer o adrodd y stori hon i gynulleidfaoedd yn yr 21ain ganrif. Rhagor o wybodaeth ar-lein

John Rickards (BEng 1999) - Winter’s End

Mae ganddynt gorff marw dynes. A dyn hanner noeth yn sefyll dros y corff. Does dim syniad ganddyn nhw sut i’w orfodi i siarad. Felly maent yn galw ar Alex Rourke, cyn-ymholwr gyda’r FBI i dref Maine yn Winter’s End. Ond wrth i Rouke bryfocio meddwl enigmatig ‘Nicholas’, mae’n cael ei orfodi i ail-edrych ar ei orffennol ei hun. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Dr Geraldine Rowe (BSc 1980) - It’s Our School, It’s Our Time: A Companion Guide to Whole-School Collaborative

Mae'r llyfr hwn yn amlinellu dull ysgol gyfan o gydweithredu rhwng athrawon a disgyblion, sy'n dangos sut y gellir mynd i'r afael ag agweddau ar anghydraddoldeb cymdeithasol drwy gymryd rhan yng nghymuned yr ysgol a chymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau o oedran cynnar. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

James Smythe (BA 2001; PhD 2008) - The Machine

Dychwelodd Vic o’r rhyfel i gael ei arteithio gan ei freuddwydion. Ei briodas â Beth ar chwâl. Fe gynigiodd beiriant achubiaeth iddo, gan glirio ei atgofion. Nawr, mae’r peiriannau wedi diflannu, yn rhy ddadleuol, a’r sgîl-effeithiau yn rhy beryglus. Ond yn fflat Beth mae yna focs du. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Sitpah Selvaratnam (LLB 1988) - The Arrest Of The Superyacht Equanimity

Y stori wir am sut y cafodd pobl Malaysia y cwch hwylio mawr Equanimity, yn ôl o Jho Low. Dyma stori am yr amgylchiadau diddorol a chymhleth a arweiniodd at arestio hanesyddol y cwch hwylio moethus drwg-enwog Equanimity, a oedd yn rhan o dwyll cenedlaethol ar lefel uchaf y llywodraeth. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Rose Sgueglia (BA 2008, PGDip 2009) - The Real Leonardo Da Vinci

Mae'r bywgraffiad hwn yn archwilio Leonardo a'i rolau gwahanol o anatomegydd i ddyfeisiwr, pensaer, peintiwr, templar yn ôl y sôn ac arloesydd gwyddonol. Er gwaethaf y ffaith na chafodd gyfle i gwblhau llawer o'i waith, llwyddodd Leonardo i ddylanwadu cenedlaethau o artistiaid, a hyd heddiw mae'n dal i gael ei ystyried yn ffigur pwysig yn y sector artistig a gwyddonol. Rhagor o wybodaeth ar-lein

Dr Rudolf Tjandra (MBA 1993) - Going East

Mae’r llyfr yma yn cynnig syniadau sylfaenol yr awdur ar ‘beth sydd bwysicaf’ er mwyn rhedeg busnes llwyddiannus ac adeiladau brand cryf yng nghyd destun y farchnad ASEAN. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Liz Unser (BPharm 1965) - Winter into Spring

Mae Gaeaf i'r Gwanwyn yn trin a thrafod brwydrau bywyd ochr yn ochr â myfyrdodau ynghylch cyfeillgarwch rhwng menywod ac athroniaeth Fwdhaidd ymarferol. Mae'n dilyn stori menyw y mae ei bywyd perffaith yn ôl pob golwg yn chwalu, a’i thaith i ddod i adnabod ei hun yn well a hunanddarganfod a gollwng gafael.  Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Dr Gareth Williams (Gol. 2005) - The Richard Davey Chronicles (Needing Napoleon, Serving Shaka, Rescuing Richard)

Dyma hanes antur anhygoel sy’n tywys y darllenydd o Baris heddiw i frwydr Waterloo a thu hwnt gydag athro hanes sy’n teithio trwy amser. Rhagor o wybodaeth ar Amazon

Tony Woodcock (BMus 1974) - All the Best Parties

Mae "All the Best Parties" gan Tony Woodcock yn mynd â ni i mewn i'r ddrama crasboeth y tu ôl i'r gerddoriaeth, yr arias, y setiau gwych,yr enwogion a glitr cymdeithasol. O binacl llwyddiant artistig a sefydlogrwydd ariannol, mae'r cwmni'n dechrau chwalu. Darllenwch ragor ar Amazon.

Tiffany Wright (MA 2004) - Somebody Else's Shoes

Nid yw Mia, y newyddiadurwraig flêr ac ansicr yn teimlo ei bod yn byw bywyd llawn. Mae Natasha Logue, y ferch ysblennydd sy’n gynllunwraig ffasiwn ar gyfer enwogion gyda phopeth y gallai obeithio. Ond un diwrnod, mae bywydau Mia a Natasha yn croesi mewn ffordd hollol annisgwyl. Rhagor o wybodaeth ar Amazon