Ewch i’r prif gynnwys

Adfer natur a risgiau sy'n dod i'r amlwg

Am fwy na phedwar degawd rydym wedi bod yn ymchwilio i ecosystemau afonydd Gwy ac Wysg.

Mae'r Arsyllfa yn ffynhonnell allweddol o dystiolaeth i archwilio newid. Mae gennym ddata ac arbenigedd ar ystod eang o organebau dŵr croyw o fiofilm, parasitiaid ac infertebratau, i gimwch yr afon, adar a dyfrgwn.

Gellir defnyddio ein hymchwil i asesu risgiau pwysau dŵr croyw, arfarnu rheolaeth dalgylch a gwerthuso ymdrechion adfer natur. Er enghraifft, yn 2017, cyfrannodd data Prosiect Dyfrgwn ar gysylltedd genetig dyfrgwn ar draws afonydd Wysg a Gwent at ymchwiliad cyhoeddus ffordd liniaru’r M4.

Yn afonydd Gwy ac Wysg rydym wedi ymchwilio i gysylltiadau rhwng llygredd dŵr croyw a dŵr gwastraff, a defnyddiau tir trefol a gwledig. Datgelodd ymchwiliadau diweddar i lygredd plastig fod 50% o bryfed yn y dalgylchoedd hyn yn cynnwys ffibrau plastig.

Prosiectau cysylltiedig

Otter

Prosiect Dyfrgwn

Rydym yn cynnal cynllun gwyliadwriaeth amgylcheddol tymor hir, gan ddefnyddio dyfrgwn sydd wedi eu canfod yn farw i ymchwilio i halogion, clefyd a bioleg poblogaeth ledled y DU.

River Taff

Darganfod plastig mewn hanner cant y cant o bryfed dŵr croyw

Ymchwil newydd yn dangos bod microblastigau'n cael eu diystyru mewn ecosystemau afonydd lle maent yn gwenwyno pryfed ac yn peryglu bywyd gwyllt

Wye Algae PhD Study

Astudiaeth PhD Algae Gwy

Prifysgol Caerdydd gyda Sefydliad Gwy ac Wysg

Stream and trees

Ymchwil yn dangos bod coed yn helpu i ddiogelu cynefinoedd afonydd

Gwyddonwyr yn galw ar lunwyr polisi i blannu mwy i ddiogelu eu cynefinoedd rhag y newid yn yr hinsawdd.