Ewch i’r prif gynnwys

Offer cenhedlaeth nesaf

Datblygu offer, modelau a diagnosteg i fonitro ecosystemau dŵr croyw a gwneud y gorau o reoli dalgylchoedd.

Ar yr afon Gwy mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi partneru â gwyddonwyr dinasyddion i fonitro ansawdd dŵr y dalgylch cyfan.

Gwyliwch ein fideo am weithio gyda dinasyddion-wyddonwyr.

Yn nalgylch afon Wysg mae ymchwilwyr wedi creu model amser real i wneud y gorau o lif y dalgylch. Gan ddefnyddio samplau a gasglwyd yn Afon Gwy, mae ein hecolegwyr moleciwlaidd wedi datblygu offer genetig i gynorthwyo monitro dŵr croyw a chadwraeth, ac yn nalgylch Wysg mae dilyniannu metagenomig yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio i ymwrthedd gwrth-ficrobaidd

Ar draws dalgylchoedd Gwy ac Wysg rydym yn defnyddio technegau ‘computer vision’ i fonitro iechyd pysgod o ffotograffau a gasglwyd gan bysgotwyr.

Gwyliwch ein fideo am y prosiect iechyd pysgod.

Prosiectau cysylltiedig

Wye catchment

Nod y prosiect gwyddoniaeth dinasyddion yw gwella’r monitro ar ansawdd dŵr ar draws dalgylch afon Gwy

Ymchwilwyr yn derbyn grantiau NERC i gydweithio ag aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru ar brosiectau gwyddoniaeth amgylcheddol

Fish Health Project

Prosiect Iechyd Pysgod

Ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyd-ddatblygu prosiect gyda physgotwyr lleol i fapio dosbarthiad ac iechyd pysgod yn y DU

duress2

Prosiect DURESS

Mae’r prosiect Amrywiaeth Afonydd Ucheldir ar gyfer Cynaliadwyedd Gwasanaethau Ecosystemau a ariennir gan NERC yn rhan o fenter fawr gan y Cyngor Ymchwil i asesu rôl bioamrywiaeth wrth ddarparu gwasanaethau ecosystem allweddol y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt.