Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Mae ein hymchwil yn defnyddio dull systemau cyfan ar gyfer atebion amgylcheddol.

Yn pontio Cymru-Lloegr, mae dalgylch gwledig Gwy yn enghraifft dda o sut mae pwysau o reoli tir ar gyfer bwyd/ffermio yn effeithio ar ddyfroedd croyw. Mae dalgylch afon Wysg gerllaw gyda blaenddyfroedd gwledig tebyg, yn llifo i ardal fwy trefol Casnewydd. Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gweithio ar ddalgylchoedd Gwy ac Wysg ers 40 mlynedd, gan ddefnyddio’r dalgylchoedd hyn fel modelau i archwilio cwestiwn ehangach 'Sut gallwn ni gydbwyso cynaliadwyedd dŵr croyw â ffyniant cymdeithasol mewn byd ansicr?'

Nod Arsyllfa Gwy ac Wysg yw hwyluso cydweithrediadau rhyngddisgyblaethol o’r gwyddorau naturiol, cymdeithasol a pheirianyddol, a galluogi’r partneriaethau a chyfnewid gwybodaeth gyda sefydliadau eraill sy’n allweddol i gyd-ddylunio datrysiadau systemau cyfan ar gyfer dyfroedd croyw.

Nod yr Arsyllfa yw adeiladu ar ein hymchwil helaeth i ddarparu dulliau systemau cyfan.

Monmouth river

Adfer natur a risgiau sy'n dod i'r amlwg

Dod â ffynonellau tystiolaeth allweddol ynghyd i ymchwilio i heriau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â diwydiant, carthffosiaeth, amaethyddiaeth a newid yn yr hinsawdd.

River Wye and Usk gathering data

Offer cenhedlaeth nesaf

Datblygu offer, modelau a diagnosteg i fonitro ecosystemau dŵr croyw a gwneud y gorau o reoli dalgylchoedd.

River Wye Canoe

Cynaliadwyedd dalgylch

Deall y rhyngweithiadau cymhleth rhwng systemau naturiol a chymdeithasol mewn dalgylchoedd dŵr croyw.