Gweledigaeth ar gyfer Uchelgais: Rhun ap Iorwerth i draddodi araith ar degwch ac adnewyddiad economaidd
8 Rhagfyr 2023
Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cychwyn 2024 gyda anerchiad bwysig gan Arweinydd newydd Plaid Cymru.
O dan y teitl ‘Gweledigaeth ar gyfer uchelgais: pam mae’n rhaid i degwch fod yn economaidd ac yn gymdeithasol’, bydd araith Rhun ap Iorwerth AS yn cyflwyno ei weledigaeth ar gyfer tegwch ac adnewyddiad economaidd.
Yn dilyn blwyddyn heriol i aelwydydd Cymru yn dilyn chwyddiant a’r argyfwng costau byw, dyma gynnig syniadau newydd ynglŷn â dyfodol economaidd Cymru.
Bydd croeso cynnes i bobl o bob lliw gwleidyddol gyda chyfle i holi cwestiynau ar ôl yr araith. Ymunwch â ni yn y Pierhead ar nos Fawrth 9 Ionawr. Cliciwch ar y ddolen i gofrestru a sicrhau eich lle.
Noddir gan Luke Fletcher AS