Adeilad Cerddoriaeth

31 Heol Corbett
Caerdydd
CF10 3EB
Mae Adeilad Cerddoriaeth wedi’i lleoli ar Heol Corbett ac mae yn fynediad lefel i’r brif fynedfa, sy’n awtomatig. Mae’r coridor i’r dde yn arwain at lifft hygyrch ar ochr arall yr adeilad, sydd yn mynd at bob llawr. Mae’r dderbynfa gyferbyn â’r brif fynedfa. Mae yna beiriannau gwerthu bwyd a diod ar gyfer byrbrydau ar y llawr cyntaf wrth loceri myfyrwyr.
Mae yna doiled hygyrch neillryw ar y llawr gwaelod yn yr ardal cyntedd wrth y Neuadd Gyngerdd, gallwch ond cael mynediad gydag allwedd radar. Ebostiwch ystadau – accessibility@caerdydd.ac.uk os ydych angen mwy o wybodaeth neu gymorth i gael allwedd radar. Mae yna doiled hygyrch neillryw ar y llawr cyntaf (rhif ystafell 1.26).
Parcio
Mae yna faes parcio staff (dalwyr trwydded yn unig) tu ôl Adeilad Cerddoriaeth, drwy Heol Colum (troad cyntaf ar y chwith). Gall deiliaid Bathodyn glas barcio tu ôl i’r ardal cyntedd, lle mae mynediad i’r brif fynedfa. Oherwydd cyfyngder lleoedd parcio, bydd angen cadw lle parcio drwy ffonio’r dderbynfa ar +44 (0)29 2087 6714.