Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad John Percival

Adeilad John Percival
Adeilad John Percival

Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Gallwch gael mynediad i Adeilad John Percival o Heol Colum, yn troi at Rodfa Colum. O Heol Corbett, dilynwch y llwybr heibio Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, mae yna oleddf byr ac ychydig yn serth, yna llwybr gwastad yn arwain at y brif fynedfa.

O Rodfa Colum a’r maes parcio, dilynwch y llwybr rhwng Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ac Adeilad John Percival. Mae gan y llwybr oleddf bychan. Mae yna ddrws mynediad hygyrch wrth ochr yr adeilad (gweler mynedfeydd isod) yn agos iawn i leoedd parcio hygyrch.

Mae yna rwystr er mwyn cael mynediad i safle Rhodfa Colum a weithredir gyda cherdyn adnabod y Brifysgol. Mae yna intercom wrth y rhwystr a man diogelwch yn agos os oes angen cymorth arnoch. Rhif ffôn y man diogelwch yw  +44 (0)29 2087 6711.

Unwaith rydych drwy’r rhwystr, dilynwch yr heol i’r dde ac mae Adeilad John Percival ymlaen ar y dde.

Mae yna fynediad gwastad (gyda llethr bychan iawn) a drysau llithro awtomatig wrth brif fynedfa Adeilad John Percival.

Mae yna fynedfa hygyrch ar ochr yr adeilad wedi’i lleoli drws nesaf i le parcio hygyrch. Mae yna oleddf bychan yn arwain at ddrws mynediad ar ochr yr adeilad. Mae’r drws fynedfa wrth yr ochr ond yn agor gyda cherdyn adnabod dilys y Brifysgol. Os oes angen mynediad arnoch drwy’r drws, cysylltwch â’ch tiwtor neu reolwr. Mae’r darllenydd cardiau ar uchder hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Mae yna doiled hygyrch neillryw, sydd wedi’i adnewyddu yn ddiweddar ar y llawr gwaelod (0.16A), o fewn y ffreutur. Mae yna doiled hygyrch neillryw ar y llawr cyntaf (1.65), y trydydd llawr (3.55), y pedwerydd llawr (4.22) ac ar y pumed llawr (5.27) hefyd. Mae yna doiledau ciwbicl safonol i dynion a menywod ar bob llawr.

Mae yna dri lifft yn Adeilad John Percival. Mae dau lifft wedi’i lleoli yn agos i allanfa Rhodfa Colum. Mae gan y ddau lifft ddrychau ar y wal gefn ac mae lefelau lloriau yn cael ei nodi drwy fodd clywedol a gweledol. Mae’r lifft yn mynd o’r llawr waelod i’r bedwerydd llawr.

Mae’r trydydd lifft yn agos i’r ffreutur ar y llawr waelod, gyferbyn a’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Mae gan y lifft ddrychau ar bob ochr, canllaw ac yn mynd o’r llawr waelod i’r pumed llawr. Efallai ni fydd y lifft yn addas ar gyfer bob math neu gadeiriau olwyn gan mai hwn yw’r lifft lleiaf yn yr adeilad.

Mae yna lifft grisiau platfform rhwng y bedwaredd a’r pumed llawr ar gyfer rhai nad ydynt yn dymuno defnyddio’r trydydd lifft.

Mae gan Adeilad John Percival siop goffi ar y llawr gwaelod, ac ardal seddi mawr a pheiriannau gwerthu bwyd a diod. Mae’r siop goffi wedi’i leoli ger y brif fynedfa i’r adeilad.

Parcio

Mae yna 3 lle parcio hygyrch a 5 lle parcio ymwelydd ar hyd Rhodfa Colum, yn agos iawn i fynedfa Adeilad John Percival.

Parcio ar gyfer beiciau

Mae yna 20 lle parcio beic ar gyfer yr adeilad.

Parcio Car