Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Aberconwy

Adeilad Aberconwy
Adeilad Aberconwy

Heol Colum
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Gallwch gael fynediad i brif fynedfa Adeilad Aberconwy o Heol Colum, gan droi ar Rodfa Colum gan ddefnyddio ymylon palmant isel a chroesfannau sebra. Mae mynedfa Adeilad Aberconwy ymlaen ar y chwith. Mae yna ramp isel (graddiant o 1/16.3) yn arwain at y fynedfa, gyda chanllawiau ar bob ochr. Mae yna hefyd 4 ris yn arwain at y fynedfa gyda chanllawiau ar bob ochr ac yn y canol. Mae yna ddrws llithro awtomatig i’r brif fynedfa. Mae yna ddrws llithro awtomatig ychwanegol yn arwain at yr ardal derbynfa.

Mae yna fynedfa ochr i Adeilad Aberconwy yn agos i'r ddau le parcio hygyrch. Mae yna ramp byr iawn (graddiant o 1/16) yn arwain at ddrysau’r fynedfa sy’n ddrysau llithro awtomatig. Mae yna ddesg derbynfa wrth y fynedfa hon. Mae arwyneb desg y dderbynfa 980mm uwchben y llawr. Mae’r dderbynfa wedi’i osod gyda chylchwifren. Defnyddiwch y gosodiad ‘T’ ar eich dolen clyw i ddefnyddio’r cylchwifren.

Mae mynedfa llyfrgell Aberconwy ar ochr yr adeilad. Mae yna ramp isel (graddiant o 1/28) yn arwain at ddrws y fynedfa, sy’n ddrws llithro awtomatig. Mae yna ganllaw ar hyd un ochr o’r ramp. Mae yna un gris gyda chanllaw ar un ochr yn agos i’r drws. Mae’r brif dderbynfa i’r dde o ddrysau’r brif dderbynfa. Mae yna gownter isel. Mae gan y cyntedd ardal gorffwyso/aros i’r chwith o’r fynedfa.

Mae yna doiled hygyrch neillryw ar y llawr gwaelod yn agos i’r brif fynedfa (rhif ystafell P18). Mae yna doiled hygyrch neillryw ar y llawr gwaelod yn agos i’r siop goffi (rhif ystafell A09). Mae’r toiledau hygyrch wedi’u amlygu ar y cynllun llawr sydd ar gael ar ochr dde'r dudalen. Mae yna doiledau safonol ar bob llawr.

Mae yna 2 lifft yn Adeilad Aberconwy, sydd wedi lleoli ochr yn ochr. Mae’r lifftiau wedi’i lleoli trwy’r drysau gyferbyn â’r brif fynedfa. Mae botymau galw’r lifft wedi’i lleoli 900mm uwchben y llawr ar bob llawr, rhwng y 2 lifft. Mae’r lifft yn 1100mm x 2200mm. Mae yna ganllawiau ar bob wal y lifft. Mae’r botymau tu fewn y lifft 860mm – 110mm uwchben y llawr. Mae gan y botymau i’r lloriau marciau cyffyrddadwy. Mae yna ddangosyddion clywedol a gweledol bob lefel llawr.

Mae yna amrywiaeth o seddau a byrddau yn ardal eistedd siop goffi Aberconwy. Mae yna hefyd ardaloedd gorffwyso ar gael ar bob llawr.

Parcio

Mae meysydd parcio'r Brifysgol yn cael eu monitro gan camerâu adnabod rhifau car awtomatig (ANPR) a swyddogion patrol ar droed.

Rhaid i bob cerbyd modur sydd wedi'i barcio wneud cais i e-drwydded neu e-docyn talu wrth fynd dilys sy'n addas i'w ddefnyddio yn y lleoliad penodol.

Mae rhai meysydd parcio yn cynnig parcio Talu wrth fynd (PAYG) trwy RingGo, mae manylion y meysydd parcio hyn ar ein tudalen Parcio ar gyfer Ymwelwyr.

Mae ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu gyffredinol, yn rhad ac am ddim, ond mae'n ofynnol iddynt ddarparu eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Cludiant a Pharcio drwy anfon e-bost carparking@caerdydd.ac.uk dim hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.

Ar gyfer llefydd parcio eraill ar y stryd, ewch I caerdydd.gov.uk

Prin yw'r parcio ar y campws

Parcio ar gyfer beiciau

Mae yna 138 o ofodau parcio beiciau sy'n cael eu rhannu rhwng tri lleoliad ar draws yr adeilad.

Parcio Car