Ewch i’r prif gynnwys

Almanaciau

Rhan o'r Almanac hynaf Cymraeg sy'n y casgliad: Almanac Thomas Jones am y flwyddyn 1681
Rhan o'r Almanac Cymraeg hynaf sy'n y casgliad: Almanac Thomas Jones am y flwyddyn 1681

Calendrau blynyddol o wybodaeth bob dydd yn cynnwys: rhagolygon tywydd, tablau llanwau, dyddiadau plannu a nodiadau seryddiaeth.

Roedd Almanaciau'n grynoadau yn seiliedig ar y calendr, gyda gwybodaeth amrywiol yn cynnwys: rhagolygon seryddiaeth ac astroleg; nodiadau meddygol ac amaethyddol; dyddiadau marchnadoedd a ffeiriau; disgrifiadau o lwybrau rhwng trefi; cronolegau digwyddiadau hanesyddol; cerddi a straeon a phob math o wybodaeth ddefnyddiol.

Ceir casgliad eang o almanacau Saesneg (o'r 17g i ddechrau'r 19g) yng Nghasgliad Llyfrau Prin Caerdydd. Mae'r prif deitlau (nid yw'r cyfan yn gyflawn) yn cynnwys:

  • Apollo Anglicanus (1685-1747);
  • Atlas Ouranios, the Coelestial Atlas (1751-1801);
  • British Tellescope (1729-1749);
  • Coelestial Diary (1729-1772);
  • Ephemeris: or, a Diary Astronomical, Astrological, Meteorological (1685-1762);
  • Gentleman’s Diary (1741-1801);
  • Ladies’ Diary (1729-1801);
  • Merlinus Anglicus Junior (1729-1762);
  • Merlinus Liberatus (1729-1801);
  • Olympia Domata (1729-1801);
  • Parker’s Ephemeris (1729-1772);
  • Poor Robin (1685-1801);
  • Remarkable News from the Stars (1729-1772);
  • Speculum Anni (1734-1801);
  • Vox Stellarum (1729-1801).

Mae'r rhan fwyaf o'r eitemau wedi'u rhwymo yn ôl blwyddyn. Mae adran almanaciau Llyfrgell Salisbury hefyd yn cynnwys casgliad llai o almanaciau Saesneg, er enghraifft, Vox Stellarum gan Francis Moore, neu a Loyal Almanack (1793-1845).

Ceir 'almanac' o 1529 yn rhan o'r gwaith fwy sylweddol, Magna Carta, o'r un flwyddyn.

Ceir yn ogystal gasgliad o almanaciau seryddiaeth, yn cynnwys teitlau Prydeinig ac Americanaidd yn dyddio o'r 1900'au cynnar i'r 1920'gau. Ceir casgliad o argraffiadau o Whitaker’s Almanack am y rhan fwyaf o'r 20g.

Mae yna rai enghreifftiau o almanaciau rhyngwladol ymhlith y casgliad, yn cynnwys casgliad Ffrengig o'r Almanac Royal (1791), a chopïau ffacsimili o'r 13 o almanaciau ar ffurf taflenni ag argraffwyd yn Umbria (yr Eidal) rhwng  1565 a 1822.

Mae tua 1,000 o almanaciau Cymraeg yn Llyfrgell Salisbury, a gyhoeddwyd ar ffurf argrafflenni, llyfrynnau, neu atodiadau papur newydd, sy'n amrywio o'r 17g-20g (ceir un o'r almanaciau Cymraeg cyntaf, Almanac Am y Flwyddyn 1681,a gyhoeddwyd yn Llundain gan Thomas Jones, yn y casgliad).

Yn ogystal ceir casgliad o almanaciau ar ffurf argrafflenni a gyhoeddwyd gan gyhoeddwyr lleol o'r 18g-20g. Maent yn cynnwys casgliad da o'r Royal Almanack, a gyhoeddwyd gan amrywiaeth o gyhoeddwyr â nifer o wahanol enwau yn cynnwys:

  • Chester Royal Almanack (1788-90)
  • Cheshire, Lancashire, and North-Wales Almanack (1791-93)
  • Royal Almanack (1796-1801)
  • Royal Almanack, ar gyfer Sir Gaer a Gogledd Cymru yn benodol (1802-03)
  • Cheshire and North Wales Royal Almanack (1804-1829)
  • Evans’s Cheshire and North Wales Royal Almanack (1820; 1830).
  • Among the newspapers supplements are: Almanac ‘Y Cymro’ (1899-1906); Border Counties Advertizer almanac (1899-1903); and Welshman's Almanack (1910-1914).

Ymhlith yr atodiadau papur newydd ceir Almanac y Cymro (1899-1906), Almanac y Border Counties Advertiser (1899-1903); a'r Welshman's Almanack (1910-1914).

Yng nghasgliad Cymdeithas Sêr-ddewiniol Caerdydd (Cardiff Astrological Society), ceir casgliad difyr o almanaciau sêr-ddewiniol ymhlith y cyfrolau, yn cynnwys casgliad Americanaidd o'r Llewellyn College of Astrology yn Portland, Oregon a chopi o The Adept, almanac o Minnesota. Mae'r almanaciau eraill o Brydain yn cynnwys The Green Book of PropheciesAlan Leo’s Astrological Manuals, the Astrological Bulletin, Zadkiel’s Almanac, Raphael’s Almanac, ac Antares Almanac.

Cysylltwch â ni

Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.

Special Collections and Archives