Ewch i’r prif gynnwys

Baledi Cymreig

Cân alarus am lofruddiaeth erchyll yng Nghasnewydd ar nos Sadwrn, Mai 29, 1886. / A mournful song of the awful murder which took place at Newport, on Saturday, May 29th, 1886.

Penillion printiedig rhad, yn darparu adloniant a chyflwyno newyddion lleol ac o dramor o ddiddordeb boblogaidd.

Mae rhan fwyaf o faledi Caerdydd wedi cael eu digido , ynghyd ag amrywiaeth o erthyglau ysgolheigaidd ar y pwnc: gweler y canllaw adnoddau Baledi Cymraeg am fanylion.

Mae gan y llyfrgell casgliad helaeth ar baledi Cymraeg o’r 18fed a’r 19eg ganrif. Mae pamffledi baled yn cynnwys darn o bennill poblogaidd, fel arfer gan awdur anhysbys, wedi’i argraffu ar un ochr o bapur. Roeddent yn cael eu gwerthu mewn ffeiriau ac ar gorneli strydoedd fel pamffledi bychan a rhad, ac felly yn cynrychioli papur newydd dyddiol ar gyfer y tlawd, yn darparu adloniant a chyflywno newyddion lleol a thramor o ddiddordeb poblogaidd. Roedd baledi’n cael eu dosbarthu’n lleol rhwng ffrindiau a theulu, neu’n cael eu arddangos mewn ardaloedd cymunedol fel tafarnau. Maent yn eitemau brau a byrhoedlog, nid oedd disgwyl i’r baledi bara mwy nag ychydig o ddyddiau.Mae’r rhai sydd wedi goroesi yn llawn gwybodaeth hanesyddol diddorol. Mae pamffledi baled yn cynnwys amrywiaeth o bynciau, gan roi cipolwg i arferion, hanes, crefydd, cerddoriaeth, iaith a llenyddiaeth. At hynny, mae baledi Cymraeg o werth penodol i rai sy’n astudio diwylliant poblogaidd a hanes lleol.

Roedd Gogledd-Ddwyrain Cymru a’r Gororau yn ganolbwynt y farchnad mewn pamffledi baled Cymraeg yn y 18fed ganrif. Gwlewyd y 19eg ganrif newydd gweithgaredd i’r de-ddwyrain diwydiannol y wlad, er roedd pamffledi baled yn llifo o’r gweisg argraffu ar hyd a lled Cymru yn ystod y cyfnod. Roedd y pamffledi baled yng Nghymru yn ffenomen Cymraeg yn bennaf, er daeth baledi Saesneg a dwyieithog yn niferus wrth i’r 19eg ganrif symud ymlaen.

Cysylltwch â ni

Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.

Special Collections and Archives