Ewch i’r prif gynnwys

Casgliad Cymdeithas Astrolegol Caerdydd

Rhan o fap astrolegol.
Rhan o fap astrolegol.

Casgliad o gyhoeddiadau o eiddo Cymdeithas Astrolegol Caerdydd, yn ogystal â detholiad bychan o adroddiad blynyddol y Gymdeithas yn ystod ei blynyddoedd cynnar.

Daeth y casgliad atom fel rhan o bryniad o ddeunydd dyblyg o Lyfrgell Gyhoeddus Caerdydd ar ddiwedd yr 1980gau. Un o aelodau mwyaf blaenllaw'r Gymdeithas oedd Arthur Mee, oedd hefyd yn gysylltiedig â Chymdeithas Astrolegol Cymru.

Roedd Arthur Mee, (1860-1926), yn newyddiadurwr, yn seryddwr a hanesydd amatur, yn awdur ac yn addysgwr a symudodd i Gaerdydd yn 1892. Ceir rhestr o enwau 36 aelod cyntaf y gymdeithas yn yr adroddiad blynyddol cyntaf, gydag o leiaf 14 o fenywod ymhlith ei haelodaeth.

Ceir casgliad diddorol o almanaciau astrolegol ymhlith y cyfrolau, yn cynnwys set Americanaidd o'r 'Llewellyn College of Astrology', Portland, Oregon, a The Adept, almanac o Minnesota. Mae'r rhai o Brydain yn cynnwys rhifynnau The Green Book of PropheciesAstrological Manuals gan Alan Leo ac Astrological BulletinZadkiel's AlmanacRaphael's Almanac, a'r Antares Almanac.

Mae yna nifer o weithiau astrolegol yn Ffrangeg, o bosibl o eiddo aelod o'r enw D. Conta o Gasnewydd, sy'n y rhestr aelodaeth, oedd yn athro Ffrangeg ac Eidalaidd -mae un o'r gweithiau Ffrangeg o'r 1790gau yn cynnwys ymylnodau. Ceir sylwebaeth mewn gweithiau eraill am Annie Besant a theosoffi, nofelau gyda chysylltiad astrolegol a gwaith gan Heinrich Daath, 'Medical Astrology'.

Cysylltwch â ni

Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.

Special Collections and Archives