Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth Achos - Talkative

Cafodd ein myfyriwr Joel Valentine le ar leoliad gwaith dros yr haf gyda chwmni meddalwedd cyfathrebu Talkative.

Joel Valentine yn Talkative yng Nghasnewydd, Cymru.

Pan oedd cwmni Talkative, sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd, yn chwilio am intern datblygu meddalwedd i ymuno â’r cwmni yn haf 2016, gwnaethant holi’r Academi Meddalwedd Genedlaethol.

Ar ôl cyfweld â thri myfyriwr, dewisodd cyfarwyddwyr y cwmni Joel Valentine, a oedd adeg hynny’n fyfyriwr israddedig Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn ei flwyddyn gyntaf.

Roedd profiad Joel yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol wedi caniatáu iddo gyfrannu at gronfa codau Talkative o’r diwrnod cyntaf, gan adeiladu nodweddion cynhyrchu i fodloni anghenion gwirioneddol cwsmeriaid. Gweithiodd mewn adrannau eraill o’r cwmni hefyd, gan gynorthwyo â gwefan Talkative, sy’n wynebu cwsmeriaid, a thrafod dylunio a chyfeiriad datblygiadau.

'Engagement Rules', nodwedd newydd Talkative wedi’i dylunio gan Joel Valentine.

Prif gyfraniad Joel at Talkative yw nodwedd newydd o’r enw ‘Rheolau Ymgysylltu’, sy’n caniatáu i gwmnïau ddewis sut a phryd y maent yn cynnig y gwasanaeth cyfathrebu Talkative i’w cwsmeriaid. Helpodd Joel i ddiffinio’r gofynion, a chreu’r nodwedd drwy ddefnyddio fframwaith dewis rheng flaen Talkative (Vue.JS), gan greu cynnyrch cwbl weithredol.

Mae Talkative yn parhau i gyflogi Joel yn rhan amser wrth iddo barhau i astudio yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol.

Mae ffocws yr AMG ar ddiwydiant yn amlwg. Maen nhw’n gwrando ar ba sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant heddiw. Maen nhw’n darparu graddedigion talentog sy’n barod am waith. Maen nhw hyd yn oed yn rhoi theori ar waith drwy gydweithio ar brosiectau diwydiant y byd go iawn. Mae’n anodd dod o hyd i ddatblygwyr talentog sy’n gwneud yn dda efo’r tîm, ond mae Joel wedi bod yn ased gwych. Mae ef wedi rhagori ar ein disgwyliadau.

Felix Winstone, Cyfarwyddwr Talkative