Ewch i’r prif gynnwys

Fforwm Cadwyn Gyflenwi Cynaliadwy a Chyfrifol (SRSC)

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn cael ei chydnabod am arweinyddiaeth fyd-eang ym maes cynaliadwyedd, rheoli'r gadwyn gyflenwi a chaffael.

Mae'r fforwm yn rhoi cyfle i academyddion o'r adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau (LOM) i ddod ynghyd â'i gilydd, a chyda phartneriaid mewnol ac allanol i archwilio heriau mawr yn y dyfodol, ac i sicrhau bod sefydliadau o wahanol sectorau a diwydiannau yn blaenoriaethu rheoli'r gadwyn gyflenwi gynaliadwy a chyfrifol.

Amcanion

  • cydgysylltu â grwpiau cynaliadwyedd eraill o fewn y brifysgol (e.e. Llefydd Cynaliadwy)
  • cynnal gweithdai hanner diwrnod ar gyfer academyddion ac ymarferwyr (e.e. caethwasiaeth fodern, caffael cyhoeddus)
  • PhD Sustainability SIG - digwyddiadau arbennig i fyfyrwyr PhD i annog cydweithio â myfyrwyr PhD o'r tu allan i Brifysgol Caerdydd.
  • Cydweithrediadau rhwng prifysgolion y DU ac Ewrop (e.e. Caerfaddon, Bryste, Lerpwl, Nottingham, Politecnico Di Milano)
  • gwahodd siaradwyr o newyddiaduron – Golygyddion a Golygyddion Gwadd o rifynnau arbennig am faterion cynaliadwyedd
  • cydweithio ar gyfleoedd ariannu e.e. prosiectau sy'n gysylltiedig â chaffael Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Ymchwil

Mae'r adran LOM yn cynnal ystod eang o ymchwil rheoli cadwyn gyflenwi gynaliadwy (SSCM), gyda thua hanner yr holl staff LOM yn gwneud ymchwil sy'n gysylltiedig â SSCM.

Mae SSCM yn ymwneud â gweithredu nodau cynaliadwyedd yn y gadwyn gyflenwi. Credir bod gan SSCM dair colofn, lle mae'r nodau economaidd yn y gadwyn gyflenwi yn cael eu cydbwyso â nodau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae hefyd yn cynnwys ystod eang o bynciau megis materion cymdeithasol a moesegol mewn cadwyni cyflenwi, caethwasiaeth fodern, masnach deg, talu cyflog byw, prynu gan fusnesau bach a mentrau cymdeithasol, a chynwysoldeb, amrywiaeth a materion diwylliannol mewn cadwyni cyflenwi.

Gall gynnwys ymchwil yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, megis caffael cyhoeddus cynaliadwy, a manteision cymunedol ym maes caffael cyhoeddus cymdeithasol. Mae hefyd yn cynnwys materion amgylcheddol ehangach fel logisteg werdd, asesu cylch bywyd a'r economi gylchol. Gellir ei archwilio o amrywiaeth o safbwyntiau damcaniaethol a mabwysiadu gwahanol ddulliau.

Mae ein hymchwil yn adlewyrchu'r ystod o ymchwil ar faterion yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi gynaliadwy a chyfrifol.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.