Ewch i’r prif gynnwys
Dr Jonathan Morris BA, MA, PhD, FHEA

Dr Jonathan Morris

BA, MA, PhD, FHEA

Cyfarwyddwr Ymchwil

Email
morrisj17@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 2087 7266
Campuses
1.74, Adeilad John Percival , Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwg

Rwyf yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg ac yn arbenigo yn y Gymraeg ac ieithyddiaeth.

Mae f’ymchwil yn canolbwyntio ar agweddau sosioieithyddol ar ddwyieithrwydd a chaffael ail iaith. Golyga hyn fod gennyf ddiddordeb mewn sut y defnyddir ieithoedd ac mewn sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar ieithoedd mewn cyd-destunau dwyieithog ac ail-iaith. Gallai'r ffactorau cymdeithasol hyn ddylanwadu ar sut y mae pobl ddwyieithog yn cynhyrchu eu hieithoedd neu ar sut y maent yn eu defnyddio ac yn teimlo amdanynt.

Diddordebau ymchwil

  • Sosioieithyddiaeth
  • Amrywio a newid ieithyddol
  • Cymdeithaseg Iaith
  • Dwyieithrwydd
  • Caffael Ail Iaith
  • Seineg a Ffonoleg

Bywgraffiad

Cwblheais radd BA mewn Astudiaethau Ffrangeg ac Almaeneg, MA mewn Ieithoedd ac Ieithyddiaeth, a PhD mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Manceinion. Yn ystod fy ngradd israddedig, treuliais amser ym Mhrifysgol Bourgogne (Dijon, Ffrainc) ac ym Mhrifysgol Basel (Y Swistir). Canolbwyntiodd fy ngwaith cynnar ar y berthynas rhwng iaith a hunaniaeth yn y gwledydd lle y siaredir yr Almaeneg.

Dechreuais weithio ar sosioieithyddiaeth a seineg (sosioseineg) y Gymraeg yn ystod fy ngradd Meistr, ac mae fy noethuriaeth yn gwerthuso dylanwad ffactorau ieithyddol a chymdeithasol ar acenion siaradwyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg.

Ymunais ag Ysgol y Gymraeg fel cynorthwyydd ymchwil yn 2012. Cyn imi symud i Gaerdydd, bûm yn gweithio fel cynorthwyydd dysgu ym Mhrifysgol Manceinion ac fel darlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Cambria, Wrecsam. Rwyf hefyd wedi gweithio fel cynorthwyydd ymchwil ar brosiectau a ariannwyd gan yr ESRC a'r British Academy.

Rhwng mis Medi 2014 a mis Awst 2019, roeddwn yn ddarlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Ieithyddiaeth ac Ieithyddiaeth Gymhwysol. Ers hynny, rwyf yn Uwch-ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth a'r Gymraeg.

Anrhydeddau a Dyfarniadau

  • Rhestr fer, Arloesi ar draws ffiniau, Gwobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer Darlithwyr Cysylltiol, 2019.
  • Rhestr fer, Aelod o Staff Mwyaf Blaengar, Prifysgol Caerdydd, 2016.

Aelodaethau proffesiynol

  • British Association of Applied Linguists
  • British Association of Academic Phoneticians
  • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch

Gwasanaeth adrannol ac i'r Brifysgol

  • Cyfarwyddwr Ymchwil (Ysgol y Gymraeg)
  • Cyd-drefnydd, Rhwydwaith Ymchwil Amlieithrwydd
  • Cyd-drefnydd, Grŵp Darllen Sosioieithyddiaeth

Cyhoeddiadau

2023

2022

2021

2020

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2010

  • Morris, J. 2010. Phonetic variation in Northern Wales: preaspiration. Presented at: Second Summer School of Sociolinguistics, Edinburgh, Scotland, 14-20 June 2010 Presented at Meyerhoff, M. et al. eds.Proceedings of the Second Summer School of Sociolinguistics, The University of Edinburgh. Edinburgh: University of Edinburgh pp. 1-16.

Addysgu

Addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd

Rwyf yn dysgu (neu wedi dysgu) modiwlau ar yr iaith Gymraeg ac ieithyddiaeth. Mae'r modiwlau hyn yn cynnwys:

  • Sgiliau Llafar yn y Gymraeg
  • Defnyddio'r Gymraeg
  • Cyflwyniad i'r Gymraeg
  • Diwylliant y Gymraeg
  • Yr Ystafell Ddosbarth

Rwyf wedi arwain y modiwlau canlynol:

  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes
  • Cymraeg y Gweithle a'r Gymuned
  • Yr Iaith Ar Waith
  • Sosioieithyddiaeth
  • Caffael Iaith
  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Rwyf hefyd yn addysgu ar yr MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ac yn darparu hyfforddiant ar dadansoddi data i fyfyrwyr PhD yr Ysgol.

Addysgu Blaenorol ym maes ieithyddiaeth

Rwyf hefyd wedi dysgu ar y modiwlau canlynol ym maes Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth:

  • Cyflwyniad i Ffonoleg
  • Dadansoddi Disgwrs
  • Amlieithrwydd Cymdeithasol
  • Tafodieithoedd y Saesneg

Addysgu Blaenorol ym maes Cymraeg i Oedolion

Rwyf wedi addysgu ar y cyrsiau canlynol ar gyfer oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg:

  • Cynllun Sabothol Cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant iaith Gymraeg
  • Cymraeg yn y Gweithle (Addysg Bellach)
  • TGAU Cymraeg Ail Iaith (Oedolion)
  • Cymraeg i Oedolion

Themâu Ymchwil

Amrywio a newid ieithyddol yn lleferydd siaradwyr dwyieithog

Canolbwyntia fy ngwaith ymchwil yn bennaf ar amrywio a newid ieithyddol (neu dafodieitheg gymdeithasegol) yn lleferydd siaradwyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg. Mae nifer o ddatblygiadau cymdeithasol yn yr ugeinfed ganrif wedi effeithio ar ddemograffeg siaradwyr y Gymraeg. Yn gyntaf, mae mewnfudo a shifft ieithyddol wedi arwain at ddirywiad yn y nifer o siaradwyr sydd yn caffael y Gymraeg ar yr aelwyd, yn enwedig mewn ardaloedd y Fro Gymraeg draddodiadol. Yn ail, ceir cynnydd yn y nifer o ‘siaradwyr newydd’ sydd yn dod o deuluoedd di-Gymraeg. Cwestiwn a godir yn fy ngwaith yw i ba raddau y mae ffactorau ieithyddol ac all-ieithyddol (megis rhyw, sefyllfa'r Gymraeg yn y gymuned, ac iaith ar yr aelwyd) yn dylanwadu ar amrywio seinegol a ffonolegol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Rwyf yn cymhwyso ymchwil flaenorol ym maes sosioieithyddiaeth at ddwyieithrwydd, felly, ac yn cymharu sut y mae siaradwyr yn cynhyrchu eu dwy iaith. Yn fwy diweddar, rwyf wedi bod yn edrych ar sut mae siaradwyr yn gwerthuso acenion Cymraeg (gyda Robert Mayr ac Ianto Gruffydd), caffaeliad gallu sosioieithyddol gan bobl ifainc mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg (gyda Mercedes Durham a Katharine Young), ac amrywio ardddulliadol yn y repertoire dwyieithog.

Cymdeithaseg dwyieithrwydd

Mae gennyf ddiddordeb mewn cymdeithaseg iaith. Rwyf wedi cyhoeddi ar ymagweddau tuag at y Gymraeg a'r defnydd ohoni ymhlith pobl ifanc yng Ngogledd Cymru ac rwyf hefyd wedi bod yn rhan o brosiect ymchwil a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar drosglwyddo'r Gymraeg. Diddordeb arall sydd gennyf yw sut mae hunaniaethau yn croestorri. Er enghraifft, rwyf wedi bod yn gweithio ar brosiect sy'n ymchwilio i brofiadau siaradwyr LHDTC+ y Gymraeg a'r modd y mae eu hunaniaethau yn gallu dylanwadu ar ei gilydd (gyda Sam Parker).

Caffael y Gymraeg fel ail iaith

Rwyf wedi cyhoeddi erthygl ar ymagweddau tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion tuag at ynganu dysgwyr ac wedi edrych ar sut y mae dysgwyr yn ynganu'r Gymraeg. Yn ehangach, mae gennyf ddiddordeb yn nylanwad ffactorau cymdeithasol a seicolegol ar gaffael y Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion ac ymhlith oedolion.

Adnoddau a seilwaith digidol y Gymraeg

Rwyf wedi gweithio ar nifer o brosiectau sy'n cyfrannu at adnoddau yn y Gymraeg ac yn arwain ar brosiectau i greu profion darllen a sillafu yn y Gymraeg ynghyd â thesawrws digidol yn yr iaith.

Prosiectau Cyfredol

Supervision

Rwyf yn awyddus i glywed gan ddarpar fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y meysydd canlynol:

  • Sosioieithyddiaeth
  • Amrywio a Newid Ieithyddol
  • Cymdeithaseg Iaith
  • Dwyieithrwydd
  • Caffael Ail Iaith
  • Seineg a Ffonoleg

Goruchwyliaeth gyfredol

Kaisa Pankakoski

Kaisa Pankakoski

Research student

alt

Assala Mihoubi

Research student

Jack Pulman-Slater

Research student

Katharine Young

Research student

Shawqi Bukhari

Research student

alt

Mohammed Bashiri

Research student

Nia Eyre

Research student

Past projects