Ewch i’r prif gynnwys

Improving Dentistry Group

Nod ein hymchwil yw datblygu therapïau mwy effeithiol i drin clefydau a hyrwyddo iachâd ledled y corff, a thrwy hynny fod o fudd i gleifion.

Ymchwil

Mecanweithiau imiwnedd yr endid lletyol wrth ymateb i diwmorau a heintiau ar feinwe

Mae monocytau gwaed amgantol yn cael eu galw i ficro-amgylcheddau tiwmor, lle maent yn cael eu trosi i fod yn facroffagau cysylltiedig â’r tiwmor, naill ai yn facroffagau llidiol M1 (gwrth-diwmor) neu’n facroffagau gwrthlidiol M2 (tyfiant tiwmor / metastasis).  Gan nad ydyn ni’n deall y mecanweithiau sy'n rheoleiddio ffurfiant macroffagau M1 ac M2 mewn amgylcheddau tiwmor, yn llwyr, mae ein hymchwil yn ymchwilio i'r mecanweithiau y mae micro-amgylcheddau tiwmor yn eu defnyddio i achosi digwyddiadau o'r fath.

Mae microbiota geneuol o bwys nid yn unig o ran iechyd y geg, ond hefyd o ran iechyd systemig. Mae ymatebion yr endid lletyol i ficrobiota geneuol wedi'u cysylltu â chlefydau cardiofasgwlaidd a diabetes mewn pobl. Rydym yn ymchwilio i sut mae celloedd imiwnedd a macroffagau cynhenid yn ymateb i fioffilmiau microbaidd a'r mecanweithiau cysylltiedig; gellid, o bosib ddefnyddio’r rhain i helpu i wneud diagnosis a thrin clefydau geneuol a systemig.

Streptococcus pneumoniae yw prif achos niwmonia a drosglwyddir yn y gymuned, gydag 20% o achosion yn gwaethygu i fod yn heintiau ar lif y gwaed ac yn arwain at gyfradd uchel o farwolaethau.  Mae ein hastudiaethau’n ymchwilio i ymatebion celloedd T rheoleiddiol i Streptococcus pneumoniae, gyda’r nod o ddefnyddio’r canfyddiadau hyn i ddatblygu brechlynnau newydd yn erbyn niwmonia a achosir gan Streptococcus pneumoniae.

Prosiectau

Publications

Digwyddiadau

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.