Grŵp Ymchwil Trethiant Rhyngddisgyblaethol Caerdydd
Rydym am i’r grŵp ymchwil hwn fod yn ganolfan sy'n adnabyddus yn fyd-eang am ymchwil academaidd a pholisi o safon ym maes trethiant a gweinyddu trethiant.
Prif nod y Grŵp Ymchwil Trethiant Rhyngddisgyblaethol Caerdydd yw bod yn ganolfan sy'n adnabyddus yn fyd-eang am ymchwil academaidd a pholisi o safon ym maes trethiant a gweinyddu trethiant.
O ystyried y rôl ganolog y mae systemau trethiant yn ei chwarae wrth siapio amodau economaidd a chymdeithasol, a chan drin a thrafod materion sy'n dod i'r amlwg, bydd gweithgareddau'r grŵp hwn yn cyfrannu at athroniaeth Gwerth Cyhoeddus yr Ysgol.
Cydlynir y grŵp ar y cyd gan Carla Edgley, a Dr Dennis De Widt o’r adran Gyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Ymchwil
Gan adeiladu ar feysydd arbenigedd presennol y Brifysgol, diben y grŵp hwn bydd gweithredu’n ganolbwynt ar gyfer ymchwilwyr ym maes trethiant yn y Brifysgol a’r rheiny o bartïon allanol.
Mae gan sawl aelodau o’r grŵp gysylltiadau â chyrff allanol pwysig, gan gynnwys Trysorlys Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru, yn ogystal â phroffesiynau ym meysydd cyfrifyddu, trethiant a’r gyfraith.
Heblaw hynny, mae aelodau’r grŵp hefyd wedi creu cysylltiadau ag ymchwilwyr ym maes trethiant sy'n gweithio mewn sefydliadau eraill yng Nghymru, y DU a thu hwnt.
Mae gan y grŵp dri amcan craidd:
- codi ymwybyddiaeth (yn genedlaethol a rhyngwladol) o’r ymchwil ym maes trethiant a wneir ym Mhrifysgol Caerdydd
- Bod yn blatfform yn Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfer hwyluso ymchwil drawsddisgyblaethol ym maes trethiant ar draws Adrannau ac ar draws Ysgolion y Brifysgol.
- creu mwy o gyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng aelodau'r grŵp a phartïon allanol, er mwyn hwyluso ymchwil sy'n berthnasol i lunio polisi a chefnogi athroniaeth Gwerth Cyhoeddus yr Ysgol.
Cwrdd â'r tîm
Staff academaidd
Yr Athro Carla Edgley
- edgleycr@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6567
Dr Dennis De Widt
- dewidtd@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6569
Yr Athro Kevin Holland
- Siarad Cymraeg
- hollandk2@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5725
Yr Athro Calvin Jones
- jonesc24@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5470
Yr Athro Leighton Andrews
- Siarad Cymraeg
- andrewsl7@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6564
Cyhoeddiadau
- Rijt, P. v. d. , Hasseldine, J. and Holland, K. 2019. Sharing corporate tax knowledge with external advisers. Accounting and Business Research 49 (4), pp.454-473. (10.1080/00014788.2018.1526058)
- De Widt, D. and Panagiotopoulos, P. 2018. Informal networking in the public sector: Mapping local government debates in a period of austerity. Government Information Quarterly 35 (3), pp.375-388. (10.1016/j.giq.2018.05.004)
- De Widt, D. and Laffin, M. 2018. Representing territorial diversity: the role of local government associations. Regional Studies 52 (11), pp.1585-1594. (10.1080/00343404.2018.1462488)
- De Widt, D. and Oats, L. 2017. Risk assessment in a cooperative compliance context: a Dutch-UK comparison. British Tax Review 2017 (2), pp.230-248.
- De Widt, D. 2017. The sustainability of local government finances in England, Germany and the Netherlands: the impact of intergovernmental regulatory regimes. In: Bolivar, M. ed. Financial Sustainability in Public Administrations. Palgrave Macmillan. , pp.193-225. (10.1007/978-3-319-57962-7_8)
- Holland, K. , Lindop, S. and Zainudin, F. 2016. Tax avoidance: a threat to corporate legitimacy? An examination of companies’ financial and CSR reports. British Tax Review 3 , pp.310-338.
- Evans, C. , Carlon, S. and Holland, K. 2016. Tax knowledge in large corporations: insights and analysis. Project Report.Institute of Chartered Accountants in Australia (ICAA)
- Wahab, N. S. A. and Holland, K. 2015. The persistence of book-tax differences. British Accounting Review 47 (4), pp.339-350. (10.1016/j.bar.2014.06.002)
- Edgley, C. R. 2010. Backstage in legal theatre: a Foucauldian interpretation of 'Rationes Decidendi' on the question of taxable business profits. Critical Perspectives on Accounting 21 (7), pp.560-572. (10.1016/j.cpa.2010.03.008)
- Edgley, C. R. and Chandler, R. A. 1999. Certainly reasonable or reasonable certainty. British Tax Review (4), pp.309-314.
Digwyddiadau
Cynhadledd y Rhwydwaith Ymchwil Trethi – Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd
Dyddiadau’r gynhadledd: 9-10 Medi 2024
Diwrnod Addysg Trethi: 11 Medi
Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion, Ysgol Busnes Caerdydd
Gwybodaeth am y gynhadledd
Cynhelir y gynhadledd hon yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion, Ysgol Busnes Caerdydd rhwng 9 a 11 Medi. Bydd yn gynhadledd wyneb-yn-wyneb, ond bydd modd i’r rhai na allant deithio i Gaerdydd ymuno â’r gynhadledd yn rhithwir. Yn ôl yr arfer, bydd y ddau ddiwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar ymchwil, tra bydd y trydydd diwrnod ar 11 Medi yn cael ei neilltuo i’r Diwrnod Addysg Trethi. Yn rhan o’r alwad hon am bapurau, croesewir papurau sy’n canolbwyntio ar ymchwil neu addysgu.
Bydd sesiynau cydamserol yn ystod y gynhadledd er mwyn ymdrin â’r papurau a gyflwynwyd. Bydd y sesiynau rhithwir yn cael eu cynnal dros Microsoft Teams, a bydd y dolenni ar gyfer pob sesiwn yn cael eu rhannu cyn y gynhadledd.
Yn y gynhadledd, bydd nifer gyfyngedig o ysgoloriaethau ffioedd a bwrsariaethau teithio’n cael eu cynnig i fyfyrwyr PhD a chydweithwyr ymchwil/addysgu ar ddechrau eu gyrfa. Hefyd, ein gobaith yw y bydd hyn a hyn o gyllid ar gael i gefnogi costau gofal plant. Bydd rhagor o fanylion ar gael unwaith y bydd y cyfnod cofrestru wedi dechrau.
Cinio’r gynhadledd
Cynhelir cinio’r gynhadledd nos Lun, 9 Medi yng Nghastell Caerdydd – safle treftadaeth nodedig sy’n agos i’r Brifysgol. Bydd y cinio’n dechrau gyda derbyniad diodydd yn Llyfrgell y Castell, wedi’i ddilyn gan swper yn y Neuadd Wledda ysblennydd.
Galw am bapurau
Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, nid oes thema benodol i’r gynhadledd hon. Yn hyn o beth, rydym yn croesawu unrhyw bapurau ym maes trethi sy’n canolbwyntio ar ymchwil neu addysgu, yn enwedig crynodebau a gyflwynwyd gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa neu athrawon/unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Gellir disgwyl clywed pa bapurau a dderbyniwyd erbyn canol mis Mai.
Cyflwyniadau
Cyflwynwch grynodeb 300 gair ar ffurf dogfen Microsoft Word, RTF neu ODT erbyn dydd Sul, 14 Ebrill, a hynny drwy e-bost i: CARBS-AccountingAndFinance@caerdydd.ac.uk
A fyddech cystal â rhoi ‘Cyflwyno crynodeb – Cynhadledd 2024 y Rhwydwaith Ymchwil Trethi’ yn llinell pwnc yr e-bost. Hefyd, sicrhewch eich bod yn nodi eich enw llawn, eich cysylltiad a’ch cyfeiriad e-bost (gan gynnwys rhai unrhyw gyd-awduron) yn yr e-bost.
Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ar gael ar wefan y Rhwydwaith Ymchwil Trethi maes o law.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yng Nghaerdydd.
Camau nesaf
Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.
Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.
Ein heffaith ymchwil
Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.