Ewch i’r prif gynnwys

Iechyd, addysg a lles

Adult helping senior in hospital

Rydym wedi cael effaith sylweddol ar wella polisïau iechyd, addysg a lles ar gyfer cymdeithas decach, fwy diogel a gofalgar.

Cafodd ein hymchwilwyr eu dyfarnu â grantiau'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd er mwyn archwilio gwelliannau i ddiogelwch cleifion ac i fynd i'r afael â gordewdra plant.

Rydym yn gartref i DECIPHer, Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd, un o bum Canolfan Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd y Cyhoedd wedi'i gydlynu gan y Cyngor Ymchwil Meddygol.

Mae ein harbenigedd iechyd wedi ei gydnabod yn allanol: mae'r Athro Mark Drakeford yn Weinidog Iechyd i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, a'r Athro Andrew Pithouse yn ymgynghorydd polisi i'r Cynulliad.

Mae ymchwil yn llywio gwelliannau ym mywydau'r ifanc a'r hen.

Mae'r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), sydd newydd gael ei sefydlu, yn atgyfnerthu cryfder ymchwil ym maes gofal cymdeithasol plant, yn dod â dros £1.35 miliwn o grantiau ymchwil ynghyd i gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol, ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi a grwpiau defnyddwyr gwasanaeth. Mae arianwyr yn cynnwys yr ESRC , Nuffield, Llywodraeth Cymru, y Loteri Fawr, NSPCC, a Gweithredu dros Blant.

Wrth i'r byd addasu i fodloni poblogaeth sy'n heneiddio, mae ymchwilwyr o Rwydwaith Gwyddoniaeth Heneiddio a Phobl Hŷn Prifysgol Caerdydd yn archwilio i fiolegol heneiddio a'i oblygiadau cymdeithasol, diwylliannol a moesegol, a sut bod gan bobl hŷn ddiddordeb mewn cymdeithas, ond sut cawn eu heithrio ganddo.

Mae'r gyfraith sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion oedrannus o dan adolygiad San Steffan a Chynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf ers 60 mlynedd, yn dilyn cyfnod ymchwil, cyhoeddi a gweithrediad Seneddol parhaus gan Luke Clements o Ysgol y Gyfraith. Mae astudiaethau arall a ariennir gan ESRC wedi arwain at well iawndal i hawlwyr wedi'u hanafu ni chawsant ddigon o iawndal am eu hanafiadau ynghynt.

Rydym yn gwneud gwelliannau ymarferol i ymarfer addysg.

Arweiniodd y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) werthusiad i Gyfnod Sylfaen addysg Llywodraeth Cymru i blant rhwng tair a saith mlwydd oed. Mae'r sefydliad yn nawr yn arwain peilotau hyblygrwydd er mwyn sicrhau bod y Cyfnod yn llwyddiannus o ran gwella addysg yn y blynyddoedd cynnar.

Mae WISERD hefyd yn arwain prosiect £1m, wedi ei gefnogi gan HEFCW, er mwyn atgyfnerthu ymchwil addysgol yng Nghymru, Bydd cyfuniad o astudiaethau carfan a rhaglen ymchwil integreiddio data yn ffurfio'r sylfaen tystiolaeth ar gyfer polisi addysgol y dyfodol yng Nghymru.