Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Meddyliau’r Dyfodol Sefydliad Waterloo

Laura W TWF
Dr Laura Westacott, Waterloo Foundation Research Fellow.

Yn sgil rhaglen Meddyliau’r Dyfodol Sefydliad Waterloo (Waterloo Foundation) caiff ymchwilwyr ifanc y cyfle i ddatblygu triniaethau arloesol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl gwanychol.

Nod rhaglen Newid Meddyliau, a sefydlwyd yn 2014 Sefydliad Waterloo (TWF), yw cefnogi ymchwilwyr ôl-ddoethurol sydd newydd gymhwyso yn y camau hollbwysig cyntaf tuag at yrfa ymchwil annibynnol.

Yn sgil y cyllid newydd, caiff yr ymchwilwyr ehangu ar waith rhaglen Newid Meddyliau sydd wedi arwain at well dealltwriaeth o’r systemau yn yr ymennydd sy'n gyfrifol am achosi anhwylderau seiciatrig.

Bydd y rhaglen yn helpu ymchwilwyr i ddatblygu eu hymchwil unigryw eu hunain, gan ddatblygu eu sgiliau, cysylltu’r Cymrodyr â gwaith partneriaid diwydiannol ac elusennol, a chynnig hyfforddiant estynedig o ran mentora, cyfathrebu a sgiliau arwain er mwyn ymgysylltu â'r cyhoedd.

Swyddi gwag a galwadau ariannu

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw swyddi gwag.

Ymholiadau

I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Meddyliau’r Dyfodol Sefydliad Waterloo, cysylltwch â:

Yr Athro Jeremy Hall

Yr Athro Jeremy Hall

Director, Neurosciences & Mental Health Research Institute

Email
hallj10@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0) 29 20 688 342