Partneriaeth Polisi ac Arloesi’n Lleol ar gyfer y Gymru Wledig
Mae Partneriaeth Polisi ac Arloesi’n Lleol ar gyfer y Gymru Wledig yn dwyn ynghyd ymchwilwyr, rhanddeiliaid a chymunedau i gynhyrchu, rhannu a defnyddio tystiolaeth i wella polisiau ac arloesi’n lleol er mwyn cynnal gwaith datblygu mewn ffordd gynhwysol a chynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru.
Amdanon ni
Mae Partneriaeth Polisi ac Arloesi’n Lleol ar gyfer y Gymru Wledig yn dwyn ynghyd ymchwilwyr, rhanddeiliaid a chymunedau i gynhyrchu, rhannu a defnyddio tystiolaeth i wella polisïau ac arloesi’n lleol er mwyn cynnal gwaith datblygu mewn ffordd gynhwysol a chynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru.
Gan ddilyn dull deinamig, integredig a rhyng-sectorol, nod Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig yw:
- Ehangu a gwella'r sylfaen dystiolaeth, mynd i'r afael â bylchau mewn data a gwella hygyrchedd drwy Hwb Tystiolaeth Integredig Ar-lein.
- Gwneud lleisiau cymunedau amrywiol yn y rhanbarth yn fwy amlwg a chynyddu eu hymgysylltiad â’r broses o lunio a gweithredu polisïau trwy gefnogi ymchwil gweithredu cymunedol i ddatblygu sylfaen dystiolaeth ar faterion sy’n flaenoriaeth iddyn nhw.
- Cryfhau galluoedd sefydliadau lleol a rhanbarthol i lunio a chynnig atebion arloesol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i broblemau polisi wedi'u haddasu i gyd-destun unigryw y Gymru wledig.
- Nodi a hyrwyddo gwersi a chanlyniadau y gellir eu haddasu a’u trosglwyddo i ranbarthau gwledig a rhanbarthau eraill nad ydynt yn rhai gwledig.
Gwybodaeth allweddol
- Dyddiad dechrau: 01/01/2024
- Dyddiad gorffen: 31/12/2026
- Swm y cyllid a'r ariannwr: £4.8 miliwn, Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol
Tîm y prosiect
Staff o:
- Brifysgol Aberystwyth
- Prifysgol Bangor
- Y Sefydliad Ymchwil Cymunedol a Chefn Gwlad
- Y Ganolfan Technoleg Amgen
- Together For Change
- Antur Cymru
- DEG
- Iechyd a Gofal Gwledig Cymru
- Sgema
- Represent Us Rural