Ewch i’r prif gynnwys

Lleihau ôl troed teithio cynadleddau academaidd mawr: ffocws ar Gynhadledd Cymdeithas Rheoli Chwaraeon Ewrop (EASM)

Mae cynadleddau yn rhan bwysig o'r byd academaidd, gan roi cyfleoedd i’r rhai sy’n bresennol rwydweithio, datblygu prosiectau newydd ar y cyd a thrafod syniadau ymchwil newydd.

Fodd bynnag, gall yr effeithiau amgylcheddol sydd ynghlwm wrth gynnal cynadleddau academaidd fod yn sylweddol, yn enwedig yr allyriadau teithio sydd ynghlwm â nhw.

Am y prosiect

Bydd y prosiect hwn yn:

  • asesu'r dulliau teithio a ddefnyddiwyd i deithio i’r digwyddiad ac yn ystod Cynhadledd EASM 2022, a'r allyriadau carbon oedd ynghlwm â hyn
  • adnabod y ffactorau sy'n dylanwadu ar ddewisiadau teithio’r rhai a oedd yn bresennol a’r agweddau sy’n bodoli tuag at leihau effaith teithio i gynadleddau

Bydd yr ymchwil yn cael ei defnyddio i wella dealltwriaeth y Pwyllgor Trefnu Lleol ac EASM o arwyddocâd dulliau teithio’r rhai a oedd yn bresennol a’r ffactorau sy'n dylanwadu ar faint eu holion traed teithio.

Bydd hefyd yn cael ei defnyddio i ddylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau yn y dyfodol ar leihau ôl troed teithio’r rhai sy’n mynd i gynadleddau, ac arwain at gynnal cynadleddau mwy cynaliadwy.

Gwybodaeth allweddol

  • Dyddiad dechrau: 01 Awst 2022
  • Dyddiad gorffen: 31 Mawrth 2023
  • Swm cyllid a chyllidwr: £4,594 Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol

Tîm y prosiect

Ymchwilwyr Arweiniol

Cymorth

Cynhaliwyd yr ymchwil hon diolch i gefnogaeth y sefydliadau canlynol:

  • Cronfa Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Prifysgol Caerdydd
  • Cymdeithas Rheoli Chwaraeon Ewrop (EASM)
  • Pwyllgor Trefnu Lleol EASM 2022 ym Mhrifysgol Innsbruck (Awstria)