Annog Newidiadau Mewn Ymddygiad i Fod yn Fwy Cynaliadwy drwy Ddigwyddiadau Chwaraeon a Diwylliannol
Diben y prosiect hwn yw asesu i ba raddau y gall digwyddiadau chwaraeon mawr fod yn ddull effeithiol i annog newidiadau mewn ymddygiad i fod yn fwy cynaliadwy.
Amdanon ni
Gall digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol fod yn ddull effeithiol i annog newidiadau mewn ymddygiad o ran cynaliadwyedd.
Roedd y prosiect ar y cyd ag NTT DATA UK a The R&A wedi cynnig cipolygon newydd i:
- deithio gan wylwyr a’r allyriadau carbon cysylltiedig
- ymwybyddiaeth, agweddau ac ymddygiad tuag at leihau effaith amgylcheddol cystadlaethau golff
- defnyddio cyfryngau digidol i annog newidiadau mewn agwedd ac ymddygiad
Fe wnaeth hyn ddylanwadu ar y gwaith o ddatblygu mentrau cynaliadwyedd a chyfathrebu digidol arloesol ar gyfer Y 151fed Bencampwriaeth Agored.
Gwybodaeth allweddol
- Dyddiad dechrau: 01 Hydref 2023
- Dyddiad gorffen: 31 Medi 2025
- Swm cyllid a chyllidwr: £23,878 Cyfrif Cyflymu Effaith Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)
Nodau
Cyd-ddatblygu a chymhwyso methodoleg i:
- Asesu ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad gwylwyr â mentrau cynaliadwyedd a chyfathrebu digidol cyfatebol yn y 151fed Bencampwriaeth Agored Golff Dynion.
- Mesur newidiadau mewn ymddygiad cynaliadwy gwylwyr yn ystod y digwyddiad ac ar ei ôl.
Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys cyd-gynhyrchu pecyn cymorth gyda'n partneriaid i wella ein gweithgareddau effaith a chefnogi trefnwyr digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol eraill i gynnal digwyddiadau mwy cynaliadwy ac asesu newidiadau mewn ymddygiad gwylwyr yn y digwyddiadau hyn a thu hwnt.
Tîm y prosiect
Ymchwilwyr Arweiniol
Y Tîm
Cymorth
Cynhaliwyd yr ymchwil hon o ganlyniad i gefnogaeth y sefydliadau canlynol:
- Cyllid Cyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Caerdydd
- Ein partneriaid allanol - NTT Data a The R&A