Mireinio pecyn cymorth ar gyfer mesur ymgysylltiad mynychwyr a newidiadau ymddygiad cynaliadwy mewn digwyddiadau chwaraeon - canolbwyntio ar gefnogwyr rygbi'r undeb
Mae'r prosiect hwn yn asesu gallu digwyddiadau chwaraeon mawr i ennyn diddordeb gwylwyr ac ysgogi newidiadau pwysig mewn ymddygiad, ac yn canolbwyntio ar gefnogwyr rygbi'r undeb.
Amdanon ni
Ar hyn o bryd, mae diffyg offer mesur i asesu gallu digwyddiadau chwaraeon mawr i ennyn diddordeb gwylwyr ac i ysgogi newidiadau pwysig mewn ymddygiad cynaliadwy.
Mae'r prosiect hwn yn cynnwys:
- profi ein hoffer mesur newid ymddygiad gyda chefnogwyr Clwb Rygbi’r Dreigiau
- dangos sut y gall canlyniadau fod yn sail i gynlluniau mentrau cynaliadwyedd amgylcheddol a chyfathrebu ar eco-ddyddiau gemau ac yn ystod y tymor
- mesur eu heffeithiolrwydd wrth ymgysylltu â chefnogwyr ac annog newidiadau mewn ymddygiad
Bydd yr ymchwil hon yn ein galluogi i ddeall gwerth a heriau wrth ddefnyddio ein 'pecyn cymorth' a nodi meysydd i'w mireinio ymhellach ar gyfer cynulleidfaoedd chwaraeon ehangach a defnyddwyr terfynol.
Gwybodaeth allweddol
- Dyddiad dechrau: 1 Medi 2024
- Dyddiad gorffen: 30 Mehefin 2025
- Swm cyllid a chyllidwr: £14,181 Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol
Tîm y prosiect
Ymchwilwyr Arweiniol
Y Tîm
Cymorth
Cynhaliwyd yr ymchwil hon o ganlyniad i gefnogaeth y sefydliadau canlynol:
- Cyllid Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Prifysgol Caerdydd
- Clwb Rygbi’r Dreigiau
- Pledgeball