Mynediad at Gyfalaf a Chyllid: Dadansoddiad Sefydliadol ac Ymddygiadol o Drefn Llywodraethu Ariannol y DU ar gyfer Datblygu’r Economi mewn Rhanbarthau sy’n wannach yn economaidd - yn sgil Tystiolaeth Cymharydd Rhyngwladol
Mae'r prosiect hwn yn trin a thrafod sut y gall banciau datblygu gwladol wneud cyfraniad tuag at wella mynediad at gyllid mewn rhanbarthau sydd ymhell y tu ôl i ranbarthau eraill.
Amdanon ni
Mae economïau lleol a rhanbarthol llwyddiannus aml yn elwa o bortffolios ariannu amrywiol, lle mae mwy nag un o ffynonellau ariannu’n cael eu defnyddio i weithio ar y cyd mewn prosiectau integredig i roi hwb i neu gryfhau economïau lleol.
Mae'r ffynonellau ariannu hyn yn cynnwys cyfalaf buddsoddi preifat ar gyfer prosiectau masnachol mawr neu ar gyfer busnesau newydd deinamig ac arloesol; cyfalaf banc a chyllid personol ar gyfer cwmnïau bach a chanolig a phrosiectau bach; busnesau corfforaethol gan gynnwys datblygwyr tai a datblygwyr manwerthu, yn ogystal â chyfalaf cyhoeddus a refeniw ar ffurf grantiau, benthyciadau a threthi.
Er hynny, yn y mwyafrif o wledydd, mae gwahaniaethau rhanbarthol sylweddol yn parhau o ran y cyfalaf buddsoddi preifat a chyhoeddus sydd ar gael i feithrin a datblygu’r economi ranbarthol. Mae'r gwahaniaethau hyn yn ei gwneud hi’n anodd gweithredu polisïau cydlyniant economaidd a chymdeithasol yn effeithiol.
Mae banciau datblygu gwladol yn gallu pontio’r bylchau hyn drwy fynd i’r afael â methiannau yn y farchnad, arloesedd ariannol, a sicrhau buddsoddiadau preifat. Ac eto, nid yw’r ffyrdd y mae’r dulliau buddsoddi gwladol hyn yn cael eu dehongli a’u gweithredu yn cael eu deall yn ddigonol.
Ffeithiau allweddol
- Dyddiad dechrau: Medi 2024
- Dyddiad gorffen: Medi 2025
- Swm y cyllid ac ariannwr: £21,000 Y Sefydliad Cynhyrchiant
Nodau
Mae’r prosiect yn ceisio mynd i’r afael â’r bwlch hwn drwy ddadansoddi cyfraniadau tri banc datblygu adnabyddus-KfW yn yr Almaen, Bpifrance yn Ffrainc, a Banc Buddsoddi Ewrop (EIB)-ochr yn ochr â’u cyfatebwyr isranbarthol i wella datblygu rhanbarthol ledled Ewrop.
Bydd y prosiect hwn yn trin a thrafod y fframweithiau sefydliadol a gaiff eu defnyddio , eu blaenoriaethau strategol, eu partneriaethau, a’u hunan ganfyddiadau o’u rolau o’r gwaith o wella gwydnwch economaidd rhanbarthol gan ddefnyddio cyfweliadau rhanddeiliaid allweddol a dadansoddiad manwl o raglen ddogfen.