Rhwydweithio trwy Sain: Gwrando ar Archifau Sain Bywyd Gwyllt yr 20fed Ganrif
Mae Rhwydweithio trwy Sain yn brosiect ymchwil tair blynedd, sy’n ymchwilio i hanesion a pherthnasedd cyfoes rhwydwaith o archifau sain bywyd gwyllt a gychwynnodd yng nghanol yr 20fed ganrif yn Ewrop a De Affrica.
Amdanon ni
Ym 1889, gwnaeth y darlledwr Almaenig a’r recordydd sain bywyd gwyllt Ludwig Koch y recordiad sain cyntaf hysbys o anifail pan welodd fronfraith Siama cyffredin mewn cawell. Fodd bynnag, nid tan y 1930au y dechreuodd recordio sain anifeiliaid ffynnu, gyda datblygiadau mewn technoleg recordio a thechnegau a'i gwnaeth yn haws dod yn agos at anifeiliaid gwyllt.
Wrth i recordiadau anifeiliaid a’r diddordeb ynddyn nhw ddechrau cynyddu, daeth archifau sain bywyd gwyllt i’r amlwg yn safleoedd newydd o setiau data gwyddonol arbenigol, yn bennaf yn storfeydd o recordiadau ar gyfer ymchwil bioacwsteg, sef astudiaeth synau anifeiliaid, ac fel llyfrgelloedd cyfeirio er mwyn i ddosbarthwyr gwyddonol a'r rhai sy'n frwd dros anifeiliaid gwyllt adnabod rhywogaethau.
Mae'r archifau hyn a'u recordiadau yn berthnasol heddiw, o'u cymhwysiad masnachol mewn apiau, ffilmiau, a gemau cyfrifiadurol, i'w defnydd parhaus mewn monitro ecolegol ar gyfer cadwraeth amgylcheddol. Mae’r prosiect ymchwil hwn yn ymchwilio i rwydwaith o saith archif sain bywyd gwyllt a gychwynnodd yng nghanol yr 20fed ganrif ar draws Ewrop a De Affrica, ac a ddaeth i’r amlwg.
Prif amcan y prosiect yw deall sut mae’r rhwydwaith hwn o archifau sain bywyd gwyllt, a’r recordiadau sain sy’n bodoli ynddyn nhw, yn cael eu cynhyrchu a’u defnyddio ar draws gwahanol gyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol.
Ffeithiau allweddol
- Dyddiad dechrau: 01/02/25
- Dyddiad gorffen: 31/01/28
- Swm y cyllid a’r ariannwr: £175,952 - AHRC (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau)
- €451,583 DFG (Sefydliad Ymchwil yr Almaen)
- Cyfanswm (Ewros wedi’u trosi i Bunnoedd) = £553,189
- €451,583 DFG (Sefydliad Ymchwil yr Almaen)
Nodau
Mae’r prosiect Rhwydweithio trwy Sain yn trin a thrafod:
- Y cyd-destunau moesegol a gwleidyddol y mae’r rhwydwaith archifol wedi’i greu ynddyn nhw
- Rhannu recordiadau sain a thechnolegau rhwng y rhwydwaith o archifau
- Amcanion hanesyddol a chyfoes y rhwydwaith archifol
- Defnyddio recordiadau sain bywyd gwyllt i fynd i'r afael â materion amgylcheddol cyfoes
- Cynhyrchu gwybodaeth am fyd natur trwy recordio sain.
Tîm y prosiect
- Yr Athro Sandra Jasper (FAU Erlangen-Nürnberg)