Gwrando ar yr archif: Dadansoddiad traws-ddiwylliannol o archifau seiniau bywyd gwyllt Ewrop, 1950 hyd heddiw
Prosiect blwyddyn yw gwrando ar yr archif, sy'n astudio hanes recordio seiniau natur trwy'r ddwy archif fwyaf yn Ewrop.
Casgliad Seiniau Bywyd Gwyllt a Seiniau Amgylcheddol y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain, ac Archif Seiniau Anifeiliaid Amgueddfa für Naturkunde Berlin.
Amdanon ni
Yn ail hanner yr 20fed ganrif, dechreuodd sefydliadau ledled y byd archifau seiniau bywyd gwyllt i gadw recordiadau o seiniau anifeiliaid gwyllt a chaeth.
Yn sgîl cyflwyno technolegau recordio newydd, enillodd yr archifau hynny eu plwyf yn ffynonellau pwysig o ddata gwyddonol ar gyfer astudio sut mae anifeiliaid yn cyfathrebu trwy seiniau (ymchwil bioacwsteg), yn ogystal â llyfrgelloedd cyfeirio i alluogi tacsonomyddion gwyddonol a’r rhai sy’n frwd dros fywyd gwyllt i adnabod rhywogaethau.
Bydd y prosiect ymchwil hwn yn canolbwyntio ar ddwy archif fwyaf Ewrop ar gyfer seiniau bywyd gwyllt: casgliad Seiniau Bywyd Gwyllt a Seiniau Amgylcheddol y Llyfrgell Brydeinig, ac Archif Seiniau Anifeiliaid Amgueddfa für Naturkunde Berlin.
Trwy ddadansoddi deunyddiau archifol ysgrifenedig a chlywedol, a chyfweld ag unigolion allweddol, mae'r prosiect hwn yn trin a thrafod creu a defnyddio'r ddwy archif, a'r recordiadau sain y maen nhw’n eu cynnwys.
Gwybodaeth allweddol
- Dyddiad dechrau: 2 Ionawr 2023
- Dyddiad gorffen: 1 Ionawr 2024
- Swm y cyllid a’r cyllidwr: Grant Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig/Leverhulme £9,880
Nodau
Mae'r prosiect yn trin a thrafod: sut y crëwyd y ddwy archif; sut mae recordiadau sain sydd wedi'u harchifo’n cael eu cynnal, eu dosbarthu a'u defnyddio; a sut mae technolegau, technegau, diwylliannau gwrando a moeseg ym maes recordio sain wedi effeithio ar amcanion, swyddogaethau a dibenion recordiadau sain sydd wedi’u harchifo.
Tîm y prosiect
- Yr Athro Sandra Jasper (Humboldt-Universität zu Berlin)